James Eric Drummond, Iarll Perth
Roedd James Eric Drummond, Iarll Perth (17 Awst, 1876 – 15 Rhagfyr, 1951) yn wladweinydd Prydeinig a wasanaethodd fel Ysgrifennydd Cyffredinol cyntaf Cynghrair y Cenhedloedd[1]
James Eric Drummond, Iarll Perth | |
---|---|
Ganwyd | 17 Awst 1876 Fulford |
Bu farw | 15 Rhagfyr 1951 Gorllewin Sussex |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon, y Deyrnas Unedig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd, diplomydd, pendefig |
Swydd | llysgennad y Deyrnas Unedig i'r Eidal, Secretary-General of the League of Nations, Principal Private Secretary to the Secretary of State for Foreign and Commonwealth Affairs, Aelod o Dŷ'r Arglwyddi |
Cyflogwr | |
Plaid Wleidyddol | Plaid Ryddfrydol |
Tad | James Drummond, 8th Viscount Strathallan |
Mam | Margaret Smythe |
Priod | Angela Constable-Maxwell |
Plant | John Drummond, 8th Earl of Perth, Lady Margaret Drummond, Lady Angela Drummond, Lady Gillian Drummond |
Gwobr/au | Cydymaith Urdd y Baddon, Marchog Croes Fawr Urdd San Fihangel a San Siôr, Cross of Liberty 3rd Division, 1st Class |
Bywyd Personol
golyguGanwyd Drummond yn Fulford Swydd Efrog yn fab i James David Drummond, 10 fed Ardalydd Strathallan, a Margaret (née Smythe) ei ail wraig.
Cafodd ei addysgu yng ngholeg Eton.
Priododd Angela Mary Constable-Maxwell (1877-1965) ar 20 Ebrill 1904[2]. Roedd hi'n ferch i Marmaduke Francis Constable-Maxwell, 11 Arglwydd Herries o Terregles a'r Anrhydeddus Angela Mary Charlotte Fitzalan-Howard (merch y Barwn 1 Howard o Glossop). Bu iddynt bedwar o blant, un mab a thair merch.
Gyrfa
golyguYsgrifennydd yn y gwasanaeth sifil
golyguDechreuodd ei yrfa gyhoeddus yn y Swyddfa Dramor ym 1900.[3] Ym 1906 daeth yn ysgrifennydd preifat i'r Arglwydd Edmond Fitzmaurice, yr is-ysgrifennydd seneddol am faterion tramor gan gadw'r swydd hyd 1910 heblaw am gyfnod byr ym 1908. Ym 1908 bu'n ysgrifennydd crynodebau i Syr Edward Gray, yr ysgrifennydd tramor gan ddychwelyd at y swydd rhwng 1910 a 1911. O 1912 i 1915 bu'n ysgrifennydd preifat i Herbert Henry Asquith[4], y prif weinidog, ac yna i olyniaeth o ysgrifenyddion tramor o 1915 i 1919, sef Gray, Arthur Balfour[5], a George Curzon[6]
Ysgrifennydd Cyffredinol Cynghrair y Cenhedloedd
golyguSefydlwyd Cynghrair y Cenhedloedd ym 1920 yn dilyn y Rhyfel Byd Cyntaf. Bwriad y gynghrair oedd creu fforwm i wledydd ceisio setlo eu gwahaniaethau trwy gyd drafod diplomyddol yn hytrach na thrwy ryfel.[7] Cynigiodd Balfour enw Drummond ar gyfer swydd ysgrifennydd cyffredinol y Gynghrair newydd. Cefnogwyd ei enwebiad gan Georges Clemenceau o Ffrainc a Woodrow Wilson o'r Unol Daleithiau. Mewn cyfarfod o Gynhadledd Heddwch Paris ar 28 Ebrill 1919 etholwyd Drummond yn bennaeth parhaol y Gynghrair.[8]
Yn ystod ei ddeiliadaeth 14 mlynedd o hyd, sefydlodd ysgrifenyddiaeth ryngwladol y Gynghrair i ddarparu corff o farn arbenigol ar faterion technegol ac i gynorthwyo'r cynghreiriaid i ddod i'r afael â setlo materion dadleuol. Roedd Drummond yn arbennig o weithredol yn y cwestiwn o ddiarfogi parhaol ac yn y trafodaethau ar gyfer derbyn yr Almaen i Gynghrair y Cenhedloedd.
Fel gwas sifil yn hytrach na gwleidydd roedd Drummond yn un nad oedd am fod yn ffigwr cyhoeddus amlwg. Roedd yn cael ei ystyried fel un oedd yn cuddio rhag amlygrwydd cyhoeddus a gwleidyddol, er gwaethaf natur amlwg ei swydd.[9] Llwyddodd i gyflawni hyn, ond credid ei fod yn wleidyddol iawn y tu ôl i'r llenni. Fodd bynnag, er gwaethaf ei barodrwydd i aros tu ôl i'r llenni, fe'i gorfodwyd yn aml i wneud hynny fel ffordd o ddyhuddo gwahanol wledydd oherwydd nad oedd ganddo gefnogaeth gan lywodraethau'r gwledydd oedd yn aelodau o'r Gynghrair. Enghraifft o hyn yw sut bu'n rhaid iddo ymdopi â pholisïau Benito Mussolini yn ystod y 1920au tuag at wledydd y Balcanau, Affrica ac Ewrop. Ni allai Drummond gondemnio'n gyhoeddus unrhyw un o bolisïau Mussolini yn gyhoeddus gan nad oedd ganddo gefnogaeth y DU a Ffrainc oedd am gynnal cysylltiadau da gyda'r Eidal. Roedd hyn yn un rheswm, ymhlith llawer, a oedd yn gwneud i rai credu ei fod yn arweinydd gwantan ac analluog.[10]
Gyda dyfodiad yr Ail Ryfel Byd methiant bu Cyngrhair y Cenhedloedd. Er hynny, pan sefydlwyd Y Cenhedloedd Unedig wedi'r Ail Ryfel Byd fe fabwysiadwyd nifer o bolisïau Drummond o geisio creu gwasanaeth sifil rhyngwladol niwtral.
Llysgennad Prydain i'r Eidal
golyguGadawodd Drummond Cynghrair y Cenhedloedd ym 1933 a phenodwyd ef yn llysgennad Prydeinig i Eidal Mussolini. Yn Rhufain,[11] ceisiodd gynrychioli polisi Prydeinig ac adrodd am fwriad llywodraeth yr Eidal mewn ffordd lawn a theg. Nid oedd yn gweld holl beryglon ffasgiaeth, ond roedd yn amheus o gymhellion yr Eidal. Nid oedd Drummond yn ddeall y cysylltiad agos rhwng gwleidyddiaeth asgell dde'r Almaen, oedd yn wrthun iddo a gwleidyddiaeth asgell dde'r Eidal, roedd yn lled gefnogi.[12]
Tŷ'r Arglwyddi
golyguYn ystod ei gyfnod fel llysgennad yn Rhufain, bu farw ei hanner frawd o briodas gyntaf ei dad yn di briod. Yn ogystal â bod yn Ardalydd Strathallan, etifeddodd y brawd y teitl Iarll Perth gan gyfyrder a daeth Eric Drummond yn Iarll Perth ar ei ôl. Mae peth cymhlethdod parthed pa rif Iarll Perth ydoedd. Wedi cefnogi ymgyrch y Jacobiniaid dan Charles Edward Stuart, gwaharddwyd 4ydd Iarll Perth o'r bendefigaeth Brydeinig, ond bu ei ddisgynyddion yn parhau i ddefnyddio'r teitl. O ran y defnydd Albanaidd roedd Eric Drummond yn 16 Iarll Perth ac mae rhai ffynonellau yn cyfeirio ato o dan y rhifolyn hwnnw.[6] Ym 1853, cafodd y gwaharddiad ei godi trwy weithred Seneddol a gwnaed George Drummond, yn 5 Iarll Perth, gan roi'r teitl Swyddogol 7 Iarll Perth i Eric.[1]
Ymddeolodd Iarll Perth o'r gwasanaeth diplomyddol ym mis Mai 1939. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd cefnogodd ymdrech rhyfel Prydain fel prif gynghorydd ar gyhoeddusrwydd tramor yn y Weinyddiaeth Wybodaeth (1939-1940). Ar ôl y rhyfel bu'n dirprwy arweinydd y Blaid Ryddfrydol yn Nhŷ'r Arglwyddi.
Marwolaeth
golyguBu farw o gancr yn ei gartref, Fyning House, Rogate, Midhurst, Sussex, yn 75 mlwydd oed.[12] Rhoddwyd ei weddillion i orwedd yn Sweetheart Abbey, Dumfries.[13]
Teitlau ac anrhydeddau
golyguAr farwolaeth ei hanner frawd etifeddodd Drummond y teitlau:[12] Category:
- Iarll Perth
- Arglwydd Drummond o Gargill a Stobhall
- Yr Arglwydd Maderty
- Deuddegfed Iarll Strathallan
- Arglwydd Drummond o Cromlix
- Pendefig Etifeddol Lennox
- Stiward Etifeddol Menteith a Strathearn
- Pennaeth Clan Drummond.
Yn ogystal â'i anrhydeddau etifeddol derbyniodd Drummond yr anrhydeddau canlynol gan y Brenin George V:
- Cydymaith Urdd y Baddon (CB) 22 Mehefin 1914[14]
- Marchog Cadlywydd Urdd St Michael a St George (KCMG) 21 Rhagfyr 1916[15]
- Marchog Croes Mawr Urdd St Michael a St George (GCMG) 30 Ionawr 1934[16]
Llyfryddiaeth
golyguCyhoeddiadau gan Drummond
golygu- The Secretariat of the League of Nations (1931), Papur wedi'i gyflwyno i'r Sefydliad Gweinyddiaeth Gyhoeddus, 19 Mawrth 1931, Saesneg.
- Ten Years of World Cooperation (1930), llyfr a gyhoeddwyd gan Ysgrifenyddiaeth Cynghrair y Cenhedloedd .. Rhagair gan Drummond, Saesneg.
- The International Secretariat of the Future; Lessons from Experience by a Group of Former Officials of the League Of Nations. (1944), llyfr Drummond yn gyd awdur, Saesneg.
- Procès-verbal ... du Conseil de la Société des nations ... (Cofnodion cyngor Cynghrair y Cenhedloedd 1920-24), Araith. Ffrangeg.
- The League of Nations BBC National Lectures,(1933)
- The organisation of peace and the Dumbarton Oaks proposals (1945) pamffledi ar gynigion Dumbarton Oaks, Cyf. 8, rhif. 1
- Annuaire de l'Association yougoslave de droit international : Année (erthygl, Ffrangeg)
- Procès-verbal ... du Conseil de la Société des nations (Cofnodion cyngor Cynghrair y Cenhedloedd 1921) (Llyfr)
- Germany after the war : proposals of a Liberal Party Committee by Eric Drummond (Llyfr, 1944)
- Ten years of world co-operation (Llyfr ) 1930, Rhagair gan by Drummond
- Procès-verbal ... du Conseil de la Société des nations / Minutes of the ... Council of the League of Nations Minutes of the ... Council of the League of Nations. 1st–15th session, Jan. l6, 1920-Nov. 19, 1921 (Llyfr)
- The aims of the League of Nations (Llyfr, 1929)
- Les Réfugiés Russes : Lettre du Comité International de la Croix-Rouge et réponse du Secrétaire Général (Llyfr, 1921) Ffrangeg
- Dix ans de coopération intellectuelle (Llyfr, 1930 )
- Speech made by Sir Eric Drummond, Secretary-general of the League of nations by Conference for the Codification of International Law (Llyfr, 1930)
- Brief van James Eric Drummond (1876–1951) aan Willem Jan Mari van Eysinga (1878–1961) (Llyfr, 1921)
- Correspondence respecting League of Nations matters, Feb. 1918-Oct. 1924 (Llyfr, 1924)
Cyhoeddiadau am Drummond
golygu- James Barros: Office Without Power (1979)
- Araceli Julia P. Gelardi: Sir Eric Drummond, Britain’s Ambassador to Italy, and British Foreign Policy during the Italo-Abyssinian Crisis of 1935–1936 (1982), traethawd MA am amser Drummond fel Llysgenad yn yr Eidal
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 Lloyd, L. (2011, Ionawr 06). Drummond, (James) Eric, seventh earl of Perth (1876–1951), diplomatist. Oxford Dictionary of National Biography adalwyd 20 Medi 2018
- ↑ "APRIL WEDDINGS - Cheshire Observer". James Albert Birchall. 1904-04-09. Cyrchwyd 2018-09-20.
- ↑ https://www.thegazette.co.uk/London/issue/27184/page/2556
- ↑ "FOREIGN OFFICE CHANGES - Abergavenny Chronicle". Abergavenny Chronicle Ltd. 1915-10-22. Cyrchwyd 2018-09-20.
- ↑ "MR BALFOUR'S STAFF - The Cambria Daily Leader". Frederick Wicks. 1916-12-21. Cyrchwyd 2018-09-20.
- ↑ 6.0 6.1 "16th Earl of Perth." YourDictionary, n.d. Web Adalwyd 20 Medi 2018
- ↑ Walters, F.P, A history of the League of Nations, Vol. 1, Oxford, 1952
- ↑ "CYNGHRAIR Y CENHEDLOEDD - Y Dydd". William Hughes. 1919-05-09. Cyrchwyd 2018-09-20.
- ↑ Chapman, Michael E. Fidgeting over Foreign Policy: Henry L. Stimson and the Shenyang Incident, 1931. Oxford Journals: Diplomatic History, Volume 37, Issue 4 (2013)
- ↑ Barros, James, Office Without Power: Secretary-General Sir Eric Drummond 1919–1933 (Oxford 1979)
- ↑ Western Morning News 07 July 1933 Tud 7 Colofn 2 Sir Eric Drummond Appointed Ambassador to Rome
- ↑ 12.0 12.1 12.2 Obituaries: Earl Of Perth The Times (London, England), Monday, Dec 17, 1951; pg. 8; Issue 52186. adalwyd 20 Medi 2018
- ↑ Gravestone pix 16th Earl of Perth adalwyd 20 Medi 2018
- ↑ Birthday Honours.The Times (London, England), Monday, Jun 22, 1914; pg. 9; Issue 40556
- ↑ "URDDAU Y BRENIN - Y Clorianydd". David Williams. 1916-12-27. Cyrchwyd 2018-09-20.
- ↑ The New Year Honours. The Times (London, England), Monday, Jan 01, 1934; pg. 13; Issue 46640
Swyddi diplomyddol | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Newydd |
Ysgrifennydd Cyffredinol Cynghrair y Cenhedloedd 1920 – 1933 |
Olynydd: Joseph Louise Anne Avenol |
Rhagflaenydd: Syr Ronald Graham |
Llysgenad Prydain i'r Eidal 1933 – 1939 |
Olynydd: Syr Percy Loraine |
Teitlau Pendefigaeth/Bonheddig | ||
Rhagflaenydd: William Huntley Drummond |
Iarll Perth 1937 – 1951 |
Olynydd: John David Drummond |