Jan Morris
Awdures a hanesydd o Gymru oedd Jan Morris CBE (2 Hydref 1926 – 20 Tachwedd 2020).[1][2]
Jan Morris | |
---|---|
Ganwyd | James Humphry Morris 2 Hydref 1926 Clevedon |
Bu farw | 20 Tachwedd 2020 Pwllheli |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | hanesydd, awdur, newyddiadurwr |
Priod | Elizabeth Morris |
Plant | Twm Morys |
Gwobr/au | CBE, Cymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol a Llenyddol, Cymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru, Heinemann Award |
Roedd yn fwyaf adnabyddus am ei thriawd Pax Britannica, hanes Ymerodraeth Prydain, a phortreadau dinasoedd, yn enwedig Rhydychen, Fenis, Trieste a Dinas Efrog Newydd. Ysgrifennodd am hanes a diwylliant Sbaen. Ystyriodd ei hun yn Gymraes a symudodd i Lanystumdwy yn yr 1960au.[2]
Fel James Morris, roedd hi'n aelod o'r cyrch ar Everest yn 1953 gan griw Edmund Hillary, a ddringodd y mynydd am y tro cyntaf.[3] Hi oedd yr unig newyddiadurwr i fynd ar y cyrch, gan ddringo gyda'r tîm i'r gwersyll 22,000 troedfedd fyny ar y mynydd, gan anfon y cyhoeddiad nodedig yn ôl i bapur newydd The Times mewn pryd i'w gyhoeddi ar 2 Mehefin 1953, diwrnod coroni Elizabeth II.[4][2]
Bywyd cynnar ac addysg
golyguGanwyd James Humphrey Morris yn Clevedon, Gwlad yr Haf i fam o Loegr a thad o Gymru. Fe'i addysgwyd yn Lancing College, Gorllewin Sussex.[2]
Bywyd personol
golyguYm 1949, pan oedd dal yn James, priododd Elizabeth Tuckniss (31 Awst 1924 – 17 Mehefin 2024), merch i blannwr tê. Cafodd Morris a Tuckniss bump o blant gyda'i gilydd, sef y bardd a'r cerddor Twm Morys, Henry Morris, Mark Morris a Suki Morys. Bu farw un o'u plant pan oedd yn faban.[2]
Dywedodd Morris yn ei hunangofiant Conundrum iddi ddechrau trawsnewid rhywedd ym 1964. Erbyn 1972, cafodd lawdriniaeth newid rhyw ym Moroco. Gwnaed y llawdriniaeth gan Georges Burou, am fod doctoriaid yn y Deyrnas Unedig yn gwrthod gwneud y llawdriniaeth oni bai fod Morris a Tuckniss yn ysgaru, rhywbeth nad oedd Morris yn awyddus i wneud bryd hynny.[5] Ysgarodd y ddau ohonynt yn ddiweddarach, ond arhosodd y ddau gyda'i gilydd. Ar 14 Mai 2008 unwyd y ddau ohonynt yn gyfreithiol drwy bartneriaeth sifil.[6][2] Bu farw Elizabeth yn 99 mlwydd oed yn 2024.[2]
Marwolaeth
golyguCyhoeddwyd ei marwolaeth yn 94 mlwydd oed gan ei mab Twm Morys ar 20 Tachwedd 2020. Bu farw am 11:40 yn Ysbyty Bryn Beryl ym Mwllheli, Llŷn.[2]
Llyfryddiaeth
golygu- Coast to Coast: A Journey Across 1950s America (1956)
- Sultan in Oman (1957)
- The Market in Seleukia (1957)
- Coronation Everest (1958)
- South African Winter (1958)
- The Hashemite Kings (1959)
- Venice (1960)
- The Presence of Spain (1964)
- Spain (1964)
- Oxford (1965)
- The Great Port: A Passage through New York (1969)
- Conundrum (1974)
- Pax Britannica:
- Heaven's Command (1973)
- The Climax of an Empire (1968)
- Farewell the Trumpets (1978)
- The Oxford Book of Oxford (golygydd) (1978)
- The Venetian Empire (1980)
- A Venetian Bestiary (1982)
- The Spectacle of Empire: Style, Effect and the Pax Britannica (1982)
- Stones of Empire: Buildings of the Raj (1983)
- The Matter of Wales: Epic Views of a Small Country (1984)
- Last Letters from Hav (1985)
- Manhattan '45 (1987)
- Hong Kong (1988)
- Pleasures of a Tangled Life (1989)
- Sydney (1992)
- Fisher's Face (1995)
- Fifty Years of Europe: An Album (1997)
- Lincoln: A Foreigner's Quest (2001)
- Trieste and the Meaning of Nowhere (2001)
- A Writer's House in Wales (2002)
- A Writer's World: Travels 1950-2000 (2004)
- Hav (2006)
- Contact! A Book of Encounters (2010)
- Europe: An Intimate Journey (2010)
- Battleship Yamato: Of War, Beauty and Irony (2018)
- In My Mind's Eye: A Thought Diary (2018)
- Thinking Again (2020)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Yr awdur a'r newyddiadurwr Jan Morris wedi marw yn 94 oed , BBC Cymru Fyw, 20 Tachwedd 2020.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 2.3 2.4 2.5 2.6 2.7 "MORRIS, JAN (1926 - 2020), awdur | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2024-11-05.
- ↑ Lea, Richard (20 Tachwedd 2020). "Jan Morris, historian, travel writer and trans pioneer, dies aged 94". The Guardian (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 20 Tachwedd 2020. Cyrchwyd 20 Tachwedd 2020.
- ↑ Adams, Tim (22 Tachwedd 2020). "Jan Morris: She sensed she was 'at the very end of things'. What a life it was." The Guardian (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-11-22. Cyrchwyd 22 Tachwedd 2020.
- ↑ [Conundrum gan Jan Morris] New York Review of Books. 2006 td.174 isbn=9781590171899
- ↑ Divorce, the death of a child and a sex change... Andy McSmith. Love story: Jan Morris - but still together. The Independent 04-06-2008. Adalwyd ar 12-03-2010