Jason Walford Davies

bardd o Gymru a beirniad llenyddol

Beirniad llenyddol a bardd yw Jason Walford Davies (ganwyd yn Aberystwyth yn 1971). Bu'n ddarlithydd yn Adran Gymraeg Prifysgol Cymru, Bangor, cyn ei benodi'n Athro. Mae ei waith ymchwil wedi arbenigo ar ddylanwad y traddodiad llenyddol Cymraeg ac ar R. S. Thomas. Mae'n Gyd-gyfarwyddwr Canolfan Ymchwil R. S. Thomas. Roedd ei gyfrol Gororau'r Iaith: R. S. Thomas a'r Traddodiad Llenyddol Cymraeg, ar restr fer Llyfr y Flwyddyn yn 2004.

Jason Walford Davies
Ganwyd1971 Edit this on Wikidata
Aberystwyth Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethdarlithydd, llenor Edit this on Wikidata
MamHazel Walford Davies Edit this on Wikidata

Enillodd ei bryddest, Egni, y goron iddo yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Casnewydd 2004.

Mae'n efaill i Damian Walford Davies.

Llyfryddiaeth

golygu
  Eginyn erthygl sydd uchod am lenor neu awdur o Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
  NODES