Jenny Randerson

Gwleidydd Cymreg (1948-2025)

Gwleidydd o Gymru oedd Jennifer Elizabeth Randerson, Barwnes Randerson (26 Mai 19484 Ionawr 2025), Roedd yn aelod o blaid y Democratiaid Rhyddfrydol a bu'n cynrychioli'r blaid yn Senedd Cymru a Thŷ'r Arglwyddi.

Y Gwir Anrhydeddus
Barwnes Randerson
Llun swyddogol, 2023
Is-ysgrifennydd Gwladol dros Gymru
Yn ei swydd
5 Medi 2012 – 8 Mai 2015
Prif WeinidogDavid Cameron
Ysg. Gwladol CymruDavid Jones
Stephen Crabb
Rhagflaenwyd ganDavid Jones
Dilynwyd ganNick Bourne
Dirprwy Brif Weinidog Cymru
Yn ei swydd
6 Gorffennaf 2001 – 13 Mehefin 2002
Prif WeinidogRhodri Morgan
Rhagflaenwyd ganMichael German
Dilynwyd ganMichael German
Gweinidog Diwylliant, Chwaraeon a'r Gymraeg
Yn ei swydd
17 Hydref 2000 [1] – 30 Ebrill 2003
Prif WeinidogRhodri Morgan
Rhagflaenwyd ganSwydd newydd
Dilynwyd ganAlun Pugh
Aelod Cynulliad
dros Canol Caerdydd
Yn ei swydd
6 Mai 1999 – 5 Mai 2011
Rhagflaenwyd ganCynulliad newydd
Dilynwyd ganJenny Rathbone
Mwyafrif6,565 (29.3%)
Aelod o Dŷ'r Arglwyddi
Yn ei swydd
27 Ionawr 2011 – 4 Ionawr 2025
Arglwydd am Oes
Manylion personol
Ganwyd(1948-05-26)26 Mai 1948
Llundain
Bu farw4 Ionawr 2025(2025-01-04) (76 oed)
Caerdydd
Plaid wleidyddolY Democratiaid Rhyddfrydol
Plaid Ryddfrydol (cyn 1988)
PriodPeter Randerson
Alma materColeg Bedford, Llundain

Bywgraffiad

golygu

Ganwyd Jennifer "Jenny" Randerson yn Llundain. Graddiodd mewn Hanes o Goleg Bedford, Prifysgol Llundain cyn ennill cymhwyster dysgu.[2]

Yn yr 1970au cynnar roedd yn athrawes yn Spalding High School, Swydd Lincoln ac ar y pryd roedd ei gŵr Peter yn gweithio i Nature Conservancy. Roedd yn astudio morfeydd heli a thraethellau lleidiog. Bu'n gweithio yn yr Orsaf Ymchwil Ecoleg Arfordirol yn Norwich.[3][4] Yn y 1990au daeth Peter yn ddarlithydd ecoleg yn Ngholeg y Brifysgol Caerdydd.[5][6][7]

Yn yr 1980au gweithiai Jenny fel athrawes uwchradd ac yna bu'n ddarlithydd yng Ngholeg Trydyddol Caerdydd (Coleg Glan Hafren erbyn hyn) yng Nghaerdydd. Roedd hefyd yn Ynad Heddwch rhwng 1982 ac 1999.

Gyrfa wleidyddol

golygu

Roedd yn gynghorydd ar Gyngor Caerdydd o 1983-2000 a hi oedd arweinydd y gwrthblaid swyddogol ar y Cyngor am bedair mlynedd. Yna cynrychiolodd sedd Canol Caerdydd yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru rhwng 1999 a 2011. Cyflwynodd strategaeth diwylliant Cymru “Dyfodol Creadigol”, a'r strategaeth gyntaf ar gyfer yr iaith Gymraeg, sef “Iaith Pawb”.

Gwasanaethodd dros dro fel Dirprwy Brif Weinidog Cymru yn llywodraeth glymblaid y Blaid Lafur a'r Democratiaid Rhyddfrydol o 6 Gorffennaf 2001 hyd 13 Mehefin 2002, yn absenoldeb Mike German, arweinydd ei phlaid ar y pryd. Wedi 2011, ymunodd â Thŷ'r Arglwyddi, a gwasanaethodd fel Is-Ysgrifennydd Gwladol Cymru rhwng 2012 a 2015. Hi oedd y Democrat Rhyddfrydol benywaidd cyntaf o Gymru i fod yn weinidog yn San Steffan, a’r Rhyddfrydwr Cymreig cyntaf i fod yn weinidog ers Gwilym Lloyd-George yn 1945.

Cychwynnodd swydd fel Canghellor Prifysgol Caerdydd ar 30 Ionawr 2019.[8]

Bywyd personol

golygu

Roedd yn briod â Peter ac roedd ganddynt ddau o blant.[9]

Bu farw yn ei chartref yng Nghaerdydd ar 4 Ionawr 2025.

Cyfeiriadau

golygu
  1. "BBC News | WALES | Welsh coalition deal sealed by leaders". news.bbc.co.uk (yn Saesneg).
  2. "Teyrngedau i'r Farwnes Jenny Randerson". Golwg360. 2025-01-06. Cyrchwyd 2025-01-06.
  3. Lincolnshire Free Press Tuesday 14 November 1972, page 13
  4. Lynn Advertiser Tuesday 4 December 1973, page 25
  5. South Wales Echo Monday 19 Chwefror 1990, page 9
  6. Biosciences, Dr Peter Randerson Senior Lecturer School of. "Dr Peter Randerson - People". Cardiff University (yn Saesneg). Cyrchwyd 2025-01-05.
  7. South Wales Echo Wednesday 4 Ebrill 1990, page 7
  8. Jenny Randerson yw Canghellor newydd Prifysgol Caerdydd , Golwg360, 16 Ionawr 2019.
  9. "Y Farnwnes Jenny Randerson wedi marw yn 76 oed". newyddion.s4c.cymru. 2025-01-05. Cyrchwyd 2025-01-05.

Dolenni allanol

golygu
  NODES