Jiwtiaid
Llwyth Germanaidd a ymfudodd i Brydain Fawr yn y 5g oedd y Jiwtiaid. Yr Eingl (neu Angliaid), y Sacsoniaid (neu Saeson), a'r Jiwtiaid oedd y tri llwyth o ogledd-orllewin tir mawr Ewrop a oresgynnodd Brydain yn sgil ymadawiad y Rhufeiniaid ac ymsefydlodd yn y wlad a elwir heddiw'n Lloegr. Nid oes cofnod o hanes y Jiwtiaid ar y Cyfandir, ac mae union darddiad y llwyth hwn yn ansicr, ond mae tystiolaeth sylweddol i ddangos mai Llychlyn oedd eu mamwlad, gorynys Jylland mae'n debyg. Mae'n bosib iddynt ffoi oddi yno yn sgil goresgyniad gan y Daniaid, a symud i arfordir Ffrisia cyn croesi Geneufor De Môr y Gogledd i dde-ddwyrain Lloegr.
Enghraifft o'r canlynol | grwp ethnig hanesyddol |
---|---|
Math | Germaniaid |
Gwladwriaeth | Denmarc, yr Almaen |
Yn ôl yr Hybarch Beda yn ei Historia Ecclesiastica Gentis Anglorum, a ysgrifennwyd yn nechrau'r 8g, ymsefydlodd y Jiwtiaid yng Nghaint, Ynys Wyth, a rhannau o Hampshire. O ran archaeoleg, mae llawer yn llai o arteffactau Jiwtaidd nag olion yr Eingl a'r Sacsoniaid.[1]
Siaradodd y Jiwtiaid iaith Germanaidd, ond nid yw'n sicr os oedd Jiwteg yn debycach i Gyn-Norseg neu i'r ieithoedd Eingl-Ffrisiaidd (Ingfaeonig), ac os oedd yn rhan o gontinwwm ag Angleg a Sacsoneg. Beth bynnag, câi Jiwteg ei chymhathu â thafodieithoedd yr Eingl-Sacsoniaid, gan ddatblygu'r iaith Hen Saesneg.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Barbara Yorke, Kings and Kingdoms of Early Anglo-Saxon England (Llundain: Routledge, 1990), tt. 5–6,