Penwisg Arabaidd draddodiadol i ddynion ar ffurf math o sgarff, o gotwm fel rheol, a wisgir wedi'i phlygu mewn sawl ffordd o gwmpas y pen neu dros yr ysgwyddau yw'r keffiyeh neu kafiyah (Arabeg: كوفية‎, kūfiyyah, lluosog كوفيات, kūfiyyāt). Mae enwau eraill arni yn cynnwys (ya)shmagh (o'r gair Twrceg, yaşmak "peth clymiedig"), ghutrah (غترة), ḥaṭṭah (حطّة) a mashadah (مشدة). Mae dynion yn arfer ei gwisgo ar draws y Dwyrain Canol, ond fe'i cysylltir yn bennaf â'r Palesteiniaid, yn arbennig y fersiwn patrwm du a gwyn, ac mae wedi dod yn symbol o ymgyrch y Palesteiniaid i adennill eu tir ac o genedlaetholdeb Arabaidd yn gyffredinol.

Bachgen Palesteinaidd yn gwisgo keffiyeh

Roedd penwisgo keffiyeh coch a gwyn trawiadol, a seiliwyd ar benwig Bedwin yr Hejaz, yn rhan o ffurfwisg y Lleng Arabaidd Gwlad Iorddonen a bellach byddin teyrnas yr Iorddonen.

Eginyn erthygl sydd uchod am ddillad. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Eginyn erthygl sydd uchod am Balesteina. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
  NODES
os 3