Llwyfan ariannu torfol ydy Kickstarter.[1] Nod y cwmni yw rhoi hwb i brosiectau creadigol.[2] Dywed Kickstarter eu bod wedi derbyn dros $1 biliwn mewn addewidion ariannol a hynny gan 5.7 miliwn o fuddsoddwyr ar gyfer 135,000 o brosiectau cerdd, ffilm, sioeau llwyfan, comics, newyddiadaeth, gemau fideo a phrosiectau yn ymwneud â bwyd.[3]

Kickstarter
Enghraifft o'r canlynolpublic-benefit corporation, crowdfunding platform, cymuned arlein Edit this on Wikidata
IaithSaesneg Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu28 Ebrill 2009 Edit this on Wikidata
LleoliadUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
SylfaenyddPerry Chen, Yancey Strickler, Charles Adler Edit this on Wikidata
Pencadlys58 Kent Street Edit this on Wikidata
GwladwriaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.kickstarter.com/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae'r 'buddsoddwyr' yn eu tro'n derbyn gwobrau am gefnogi'r mentrau.[4] Gellir olrhain y cysyniad gwreiddiol sydd y tu ôl i'r noddi celfyddydol hwn i fodel lle mae noddwyr yn tanysgrifio'n uniongyrchol gyda'r artist neu'r artistiaid er mwyn eu cefnogi'n ariannol.[5]

Sefydlwyd Kickstarter ar 28 Ebrill 2009 gan Perry Chen, Yancey Strickler, a Charles Adler.[6] Galwodd Time y gwasanaeth "y dyfeisiad gorau yn 2010"[7] a'r "Wefan orau yn 2011".[8] Ymhlith y cefnogwyr mae Union Square Ventures ac "angylion" fel Jack Dorsey, Zach Klein a Caterina Fake.[9] Yn Greenpoint, Brooklyn mae pencadlys y cwmni.

Cyfeiriadau

golygu
  1. ""Kickstarter crowdfunding site officially launches in Canada"". The Canadian Press. 10 Medi 2013. Cyrchwyd 14 Hydref 2013.
  2. Gannes, Liz (29 Mai 2010). "Kickstarter: We Don't Have Anything Against Celebrity Projects". All Things D.
  3. "OMG", Kickstarter; adalwyd 26 Rhagfyr 2022
  4. Walker, Rob (5 Awst 2011). "The Trivialities and Transcendence of Kickstarter". New York Times Magazine.
  5. Garber, Megan (29 Mehefin 2013). "Kickstarters of Yore: Mozart, Lady Liberty, Alexander Pope". The Atlantic.
  6. Wauters, Robin (April 29, 2009). "Kickstarter Launches Another Social Fundraising Platform".
  7. Snyder, Steven James (11 Tachwedd 2010). "The 50 Best Inventions of 2010". Time. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-08-17. Cyrchwyd 20 Mehefin 2012.
  8. McCracken, Harry (16 Awst 2011). "The 50 Best Websites of 2011". Time. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-08-24. Cyrchwyd 20 Mehefin 2012.
  9. Kafka, Peter. "Kickstarter Fesses Up: The Crowdsourced Funding Start-Up Has Funding, Too". All Things D. Dow Jones & Company Inc. Cyrchwyd 7 Chwefror 2012.
  NODES
Project 1