Lili Elbe
Yr oedd Lili Ilse Elvenes, a adnabyddir yn well fel Lili Elbe (28 Rhagfyr 1882 – 13 Medi 1931), yn ferch drawsryweddol o Ddenmarc. Roedd hi ymysg y bobl gyntaf un i dderbyn[1] llawdriniaeth ailgyfeirio rhyw.[2] Ganwyd Elbe yn Einar Magnus Andreas Wegener[3] ac roedd yn artist llwyddiannus o dan yr enw hwnnw. Ymddangosodd hefyd fel Lili, sillafir Lily weithiau, a fe'i chyflwynwyd yn gyhoeddus fel chwaer Einar. Ar ôl trawsnewid, newidiodd ei henw yn gyfreithiol i Lili Ilse Elvenes[4], yn ogystal â rhoi'r gorau i'w gyrfa beintio.
Lili Elbe | |
---|---|
Ganwyd | Einar Magnus Andreas Wegener 28 Rhagfyr 1882 Vejle |
Bu farw | 13 Medi 1931 Dresden |
Dinasyddiaeth | Brenhiniaeth Denmarc |
Alma mater | |
Galwedigaeth | arlunydd |
Arddull | celf tirlun |
Priod | Gerda Wegener |
Arddangosir blwyddyn geni Elbe fel 1886 weithiau. Mae'n debyg mai ffynhonnell hyn yw llyfr amdani, lle newidiwyd rhai ffeithiau er mwyn gwarchod hunaniaethau'r rhai a fanylwyd ynddo. Dengys cyfeiriadau ffeithiol i fywyd gwraig Elbe, Gerda Gottlieb, mai 1882 yw'r dyddiad cywir, oherwydd y ffaith amlwg a briodant tra yn y coleg yn 1904.[5][6] Mae'n debygol iawn bod Elbe yn berson rhyngrywiol,[7][8][9][10] er bod rhai yng anghytuno.[11]
Cyhoeddwyd ei hunangofiant Man into Woman, yn 1933.[12]
Priodas a modelu
golyguCwrddodd Elbe â Gerda Gottlieb yn Academi Frenhinol y Celfyddydau Cain Denmarc yng Nghopenhagen,[13] priodasant yn 1904, pan oedd Gottlieb yn 19 a Wegener yn 22.[5] Gweithiodd y ddau fel darlunwyr, gydag Elbe yn arbenigo mewn peintio tirluniau, tra'r oedd Gottlieb yn darlunio llyfrau a chylchgronau ffasiwn. Teithiodd y ddau drwy'r Eidal a Ffrainc, cyn iddynt ymgartrefu ym Mharis yn 1912, lle gallai Elbe fyw yn agored fel merch, a Gottlieb fel lesbiad.[5] Derbyniodd Elbe y wobr Neuhausens yn 1907 ac arddangosodd yn Kunstnernes Efterårsudstilling (Arddangosfa Artistiaid yr Hydref), yn Amgueddfa Gelf y Vejle, ac yn y Saloon a Salon d'Automme ym Mharis. Cynrychiola yn Amgueddfa Gelf Vejle yn Nenmarc.[14]
Dechreuodd Elbe wisgo dillad merched tra'n cymryd lle model absennol; fe'i gofynnir i wisgo hosanau a sodlau yn gadael i'w choesau cymryd lle coesau'r model. Synnodd Elbe at ba mor gyfforddus a deimlodd yn y dillad.[14] Dros amser, daeth Gottlieb yn enwog ar gyfer peintio merched hardd gyda llygaid almon eu siâp yn gwisgo dillad ffasiynol. Yn 1913, synnodd y cyhoedd pan ddarganfyddant mai gŵr Gottlieb "Elbe" oedd y model a ysbrydolodd ei darluniad o femmes fatales fechan. [5]
Yn yr 1920au a'r 1930au, ymddangosodd Elbe yn aml fel merch, yn mynychu amrywiaeth o ddigwyddiadau yn ogystal â chroesawu gwesteion i'w thŷ. Un peth roedd hi'n hoff o'i wneud oedd diflannu yn gwisgo'i dillad modelu ar strydoedd Paris yng nghanol y torfeydd yn ystod y Carnifal.[15][16] Cyflwynir Elbe fel chwaer Einar Wegener gan Gottlieb tra'n gwisgo dillad merched.[2] Dim ond ei chyfeillion agosaf oedd yn ymwybodol o'i thrawsnewidiad.
Llawdriniaethau a diddymiad priodas
golyguYn 1930, aeth Elbe i'r Almaen er mwyn derbyn llawdriniaeth ailgyfeirio rhyw, a oedd yn arbrofol ar y pryd. Cafodd gyfres o bedair llawdriniaeth dros ddwy flynedd.[16] Gwnaethpwyd y llawdriniaeth gyntaf, cael gwared â'r ceilliau, o dan oruchwyliaeth y rhywolegwr Magnus Hirschfeld ym Merlin.[16] Yr oedd Kurt Warnekros, meddyg yn Nghlinig Dinesig y Merched Dresden, yn gyfrifol am weddill ei thriniaethau.[17] Yn yr ail lawdriniaeth, mewnblannwyd wyfa ar ei chyhyredd abdomenol, yn y drydedd, cafodd wared â'r pidyn a'r ceillgwd,[18] ac yn y bedwaredd, trawsblannwyd croth ac adeiladwyd camlas weiniol.[19][20]
Erbyn llawdriniaeth olaf Elbe, roedd ei hachos yn derbyn cryn dipyn o sylw ym mhapurau newydd Denmarc a'r Almaen. Dirymwyd priodas Elbe i'w gwraig gan lys Danaidd yn Hydref 1930,[21] a newidiwyd ei rhyw a'i henw yn gyfreithiol, gan gynnwys derbyn pasbort fel Lili Ilse Elvenes. Rhoddodd y gorau i'w pheintio, yn credu mai elfen o hunaniaeth Einar oedd. Wedi diddymiad ei phriodas, dychwelodd i Ddresden ar gyfer ei llawdriniaeth derfynol.
Marwolaeth
golyguYm Mehefin 1931, cafodd Elbe ei phedwaredd llawdriniaeth, a gynhwysodd trawsblaniad y groth ac adeiladu gwain, y ddwy yn driniaethau arbrofol ar y pryd.[19] Bu farw tri mis wedi'r llawdriniaeth oherwydd parlys y galon a achosir gan drawsblaniad y groth.[22][23][19][20]
Aeth Gottlieb ymlaen i briodi'r swyddog milwrol, awyrennwr a diplomydd Eidalaidd, yr Uwchgapten Fernando "Nando" Porta. Symudant i Foroco lle cafodd wybod am farwolaeth Elbe. Yn ystod eu priodas, gwariodd Fernando gynilion Gerda yn eu cyfanrwydd, ac ar ôl cyfnodau o fyw ym Marrakech a Chasablanca, ysgarodd y cwpl.[20] Dychwelodd Gottlieb i Ddenmarc, lle bu farw "heb yr un geiniog" yn 1940.[20]
Yn niwylliant poblogaidd
golyguYsgrifennodd y llyfr Man into Woman: The First Sex Change am Elbe a fe'i gyhoeddwyd yn 1933.[24]
Rhoiff MIX Copenhagen bedair gwobr "Lili" a enwir ar ôl Elbe.[25]
Mae nofel 2000 David Ebershoff, The Danish Girl, yn gyfrif ffuglennol o fywyd Lili Elbe.[26] Gwerthodd yn dda yn rhyngwladol a fe'i chyfieithwyd i ddwsin o ieithoedd. Derbyniodd y fersiwn ffilm, a gynhyrchwyd gan Gail Mutrux a Neil LaBute ac sy'n serennu Eddie Redmayne fel Elbe, adolygiadau da yng Ngŵyl Ffilm Fenis ym Medi 2015.[27] Er hyn, mae rhai wedi beirniadu'r penderfyniad i gastio dyn cis-ryweddol i chwarae merch drawsryweddol[28].
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Hirschfeld, Magnus.
- ↑ 2.0 2.1 Lili Elbe. andrejkoymasky.com. 17 May 2003
- ↑ Meyer, Sabine (2015), »Wie Lili zu einem richtigen Mädchen wurde« – Lili Elbe: Zur Konstruktion von Geschlecht und Identität zwischen Medialisierung, Regulierung und Subjektivierung, p. 15, pp. 312-313.
- ↑ (Meyer 2015, pp. 311–314)
- ↑ 5.0 5.1 5.2 5.3 She and She: The Marriage of Gerda and Einar Wegener.
- ↑ "Ejner Mogens Wegener, 28-12-1882, Vejle Stillinger: Maler".
- ↑ Hoyer, ed., Niels (2004).
- ↑ "Lili Elbe’s autobiography, Man into Woman" Archifwyd 2015-03-28 yn y Peiriant Wayback.
- ↑ Vacco, Patrick (29 April 2014).
- ↑ "Could this be Eddie Redmayne's most challenging role?"
- ↑ Kaufmann, Jodi (January 2007).
- ↑ "Lili Elbe - Painter - Biography.com". biography.com.
- ↑ "Conway's Vintage Treasures".
- ↑ 14.0 14.1 The Arts and Transgender. renaissanceblackpool.org
- ↑ Gerda Wegener. get2net.dk
- ↑ 16.0 16.1 16.2 "Lili Elbe (1886–1931)" Archifwyd 2015-08-03 yn y Peiriant Wayback.
- ↑ Brown, Kay (1997) Lili Elbe.
- ↑ (Meyer 2015, pp. 271–281)
- ↑ 19.0 19.1 19.2 "Lili Elbe Biography".
- ↑ 20.0 20.1 20.2 20.3 Harrod, Horatia (8 December 2015).
- ↑ (Meyer 2015, pp. 308–311)
- ↑ "Lili Elbe: the transgender artist behind The Danish Girl".
- ↑ "The Danish Girl (2015)".
- ↑ Hoyer, Niels (1933).
- ↑ "In Competition" Archifwyd 2017-10-02 yn y Peiriant Wayback.
- ↑ "BOOKS OF THE TIMES; Radical Change and Enduring Love".
- ↑ "‘The Danish Girl’ Wows With 10-Minute Standing Ovation In Venice Premiere" Archifwyd 2019-04-15 yn y Peiriant Wayback.
- ↑ Denham, Jess (September 1, 2015).