Lliw primaidd

lliwiau a gellir eu cyfuno i greu lliwiau eraill

Y lliwiau cynradd a elwir hefyd yn lliwiau cysefin yw'r lliwiau na ellir eu cynhyrchu trwy gymysgu lliwiau eraill. Y lliwiau cynradd mewn celf yw coch, melyn a glas. Gellir ffurfio pob lliw pur trwy gymysgu lliwiau cynradd mewn gwahanol gyfrannau. Penderfyniad dynol yw hyn.

Lliwgylch gyda lliwiau cysefin yn y canol, celfyddydol

O ran golau, ffiseg a ffisioleg a gwyddoniaeth cyfeirir at y lliwiau cynradd fel glas, gwyrdd a choch a ddewisir fel lliwiau cynradd wedi eu seilio ar symptomau yn retina'r llygad. Gall unrhyw liw arall, lliwiau eilradd neu is-liwiau gael eu creu wrth gymysgu'r lliwiau yma.

Biolegol

golygu
 
Ymatebion conau dynol arferol wedi'u normaleiddio (mathau S, M ac L) i ysgogiadau unlliw sbectrol

Dydy lliwiau cynradd ddim yn cysyniad ffisegol wedi'i reoli gan olau ond yn hytrach yn gysyniad biolegol yn ddibynnol ar ymateb ffisiolegol y llygad dynol i olau. Yn fras, mae golau ar sbectrwm di-derfyn o donfeddi, sy'n golygu, mewn gwirionedd bod dewis di-bren-draw bron o liwiau. Ond mae'r llygad dynol dim ond yn cynnwys tri math o ffotodderbynyddion a elwir yn conau. Mae'r rhain yn ymateb i donfeddi sbesiffig o goch, gwyrdd a glas golau. Mae pobl a rhywogaethau eraill sy'n meddu ar y tri math o gonau yma yn cael eu galw trilliw neu drigromatig.

Creu lliwiau mewn dylunio graffig

golygu
 
Cymysgu ychwanegol: mae cydgymysgu'r tri lliw ychwanegol yn rhoi gwyn
 
Cymysgu tynnol: mae cydgymysgu'r tri lliw tynnol yn rhoi du

Mae dwy ffordd wahanol i gymysgu lliwiau ym maes celf a dylunio graffig, sef yn ychwanegol (additive) neu yn tynnol (subtractive). Mae'r ddau ddull yn defnyddio lliwiau cynradd.

  • Ychwanegol - y lliwiau ychwanegol yw coch, gwyrdd a glas. Defnyddir yr ychwanegol, e.e. mewn sgriniau teledu a chyfrifiadur. Lliw allbynnol y cyfrwng (sgîn) mewn cymysgu ychwanegol yw du. Po fwyaf o liw a ychwanegir y mwyaf lliwgar bydd y lliw a arddangosir.
  • Tynnol - y lliwiau tynnol yw majenta, melyn a cyan. Defnyddir ar gyfer argraffu lliw ar bapur a chyfryngau tebyg. Yn y system dynnol bydd y cyfrwng (e.e. papur) yn wyn. Po fwyaf o liw a ychwanegir, y tywyllaf fydd y canlyniad. Y system dynnol yw'r un sy'n sail i'r system CMYK a ddefnyddir yn y diwydiant dylunio graffig.

Daw ymdriniaeth o liwiau a lliwiau cynradd o bwys mawr yn y byd celfyddydol. Creau'r mudiad avant-garde y grŵp De Stijl o'r Iseldiroedd mewn dim ond defnyddio lliwiau cynradd (a hefyd du, gwyn a llwyd) yn eu gwaith gan mai dyna oedd gwir liwiau handofol heb ymyrraeth ychwanegolion. Roeddynt am dadwneud unrhyw beth oedd yn lefethair ar symlrwydd a gwir natur goddrych.

  NODES