Llyn yn ne Sweden yw Llyn Mälaren. Gydag arwynebedd o 1,140 km², ef yw llyn trydydd-fwyaf Sweden ar ôl Llyn Vänern a Llyn Vättern, ac mae tua 63 medr yn y mnan dyfnaf. Saif i'r gorllewin o Stockholm.

Llyn Mälaren
Mathllyn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Stockholm, Sir Uppsala, Sir Västmanland, Sir Södermanland Edit this on Wikidata
GwladBaner Sweden Sweden
Arwynebedd1,072 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr0.7 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau59.5°N 17.2°E Edit this on Wikidata
Dalgylch21,460 cilometr sgwâr Edit this on Wikidata
Hyd120 cilometr Edit this on Wikidata
Map

Ceir nifer o ynysoedd ynddo; y ddwy fwyaf yw Selaön (91 km²) a Svartsjölandet (79 km²). Dynodwyd Birka, sefydliad o oes y Llychlynnwyr ar ynys Björkö, ynghyd â Hovgården ar ynys Adelsö yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO yn 1993. Mae Palas Drottningholm ar ynys Lovön hefyd yn Safle Treftadaeth y Byd.

  NODES