Llyn Turkana
Llyn yng ngogledd Cenia, yn cyrraedd hyd at Ethiopia yn y gopledd, yw Llyn Turkana, gynt Llyn Rudolf.
Delwedd:LakeTurkanaSouthIsland.jpg, Lake Turkana.jpg, Series of lava rock pools at southern end of Lake Turkana.jpg | |
Math | llyn hallt, llyn caeedig |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Parc Cenedlaethol Llyn Turkana |
Gwlad | Cenia, Ethiopia |
Arwynebedd | 6,405 km² |
Uwch y môr | 360 metr |
Cyfesurynnau | 4.05°N 36.02°E |
Dalgylch | 130,860 cilometr sgwâr |
Hyd | 290 cilometr |
Mae tair afon, afon Omo, afon Turkwel ac afon Kerio, yn llifo i mewn i'r llyn, ond nid oes yr un afon yn llifo allan. O gwmpas y llyn ceir Parc Cenedlaethol Llyn Turkana, sy'n Safle Treftadaeth y Byd.
Paleoanthropoleg
golyguMae'r ardal yn enwog fel safle darganfod ffosiliau hominid cynnar ee Homo rudolfensis. Tua 2 filiwn i 3 miliwn o flynyddoedd yn ôl, roedd y llyn yn llawer mwy a'r tir o'i gwmpas yn llawer mwy ffrwythlon. Cafodd Richard Leakey ac eraill hyd i nifer o ffosilau dynol cynnar pwysig yma, er enghraifft yn 1984 cafodd Kamoya Kimeu hyd i "Fachgen Turkana", sgerbwd Homo ergaster ("dyn gweithiol"), bron yn gyflawn.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Beck, Roger B.; Black, Linda; Krieger, Larry S.; Naylor, Phillip C.; Shabaka, Dahia Ibo (1999). World History: Patterns of Interaction. Evanston, IL: McDougal Littell. ISBN 0-395-87274-X.CS1 maint: uses authors parameter (link)