Mamma Mia! (sioe gerdd)

Mae Mamma Mia! yn sioe gerdd gan y dramodydd Prydeinig Catherine Johnson. Seiliwyd y sioe gerdd ar ganeuon ABBA a gyfansoddwyd gan Benny Andersson a Björn Ulvaeus. Er fod teitl y sioe gerdd yn dwyn enw un o ganeuon ABBA o 1975, mae'r sioe ei hun yn ffuglennol ac nid yw'n fywgraffiadol.

Mamma Mia!
Mamma Mia! yn Theatr Tywysog Cymru yn Llundain
Cerddoriaeth Björn Ulvaeus
Benny Andersson
Geiriau Björn Ulvaeus
Benny Andersson
Llyfr Catherine Johnson
Seiliedig ar Seiliedig ar ganeuon ABBA
Cynhyrchiad 1999 West End
2000 Toronto
2000 Boston a D.C.
2001 Broadway
2001 Taith Awstralasaidd Tour
2002 Taith yr Unol Daleithiau
2003 Las Vegas
Cynhyrchiadau byd-eang
Mamma Mia! The Movie

Roedd Björn Ulvaeus a Benny Andersson ynghlwm â datblygiad y sioe o'r cychwyn cyntaf. Mae Anni-Frid Lyngstad wedi bod yn gysylltiedig â'r sioe yn ariannol ond nid yw Agnetha Fältskog yn gysylltiedig ag ef er ei bod yno ar noson agoriadol a noson olaf y sioe yn Sweden.

Erbyn Gorffennaf 2003, roedd dros deg miliwn o bobl wedi gweld y sioe. Amcangyfrifir fod 30 miliwn o bobl wedi gweld y sioe gerdd erbyn 2007. Ers i'r sioe agor ym 1999, mae'r cynhyrchiad wedi gwneud $2.0 biliwn UDA. [1]

Cyfeiriadau

golygu
  NODES