Marcel Proust
Nofelydd a beiriniad o Ffrainc oedd Valentin Louis Georges Eugène Marcel Proust (10 Gorffennaf 1871 – 18 Tachwedd 1922). Mae'n fwyaf adnabyddus am À la recherche du temps perdu ("Chwilio am amseroedd coll"), a gyhoeddodd mewn saith rhan rhwng 1913 a 1927.
Marcel Proust | |
---|---|
Ganwyd | Valentin Louis Georges Eugène Marcel Proust 10 Gorffennaf 1871 16ain bwrdeistref Paris |
Bu farw | 18 Tachwedd 1922 o niwmonia 16ain bwrdeistref Paris |
Dinasyddiaeth | Ffrainc |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | nofelydd, awdur ysgrifau, llenor, beirniad llenyddol, bardd, rhyddieithwr |
Adnabyddus am | À l'ombre des jeunes filles en fleurs, In Search of Lost Time, Jean Santeuil |
Arddull | novel sequence, traethawd, pastiche |
Tad | Adrien Proust |
Mam | Jeanne-Clémence Proust |
Gwobr/au | Gwobr Goncourt, Chevalier de la Légion d'Honneur, Grand Prize for the Best Novels of the Half-Century |
llofnod | |
Ganed Proust yn Auteuil, rhan o ddinas Paris. Roedd ei dad, Achille Adrien Proust, yn batholegydd amlwg, yn gweithio ar achosion colera a sut i'w atal. Nid oedd ei iechyd yn dda pan oedd yn blentyn, ond treuliodd flwyddyn yn y fyddin yn (1889-90). Cyhoeddodd Du côté de chez Swann, rhan gyntaf À la recherche du temps perdu, yn 1913.
Bu farw yn 1922, a chladdwyd ef ym Mynwent Père Lachaise ym Mharis.
Llyfryddiaeth
golygu- 1896 Les plaisirs et les jours ("Pleserau a Dyddiau")
- 1904 La Bible D'Amiens; cyfieithiad o lyfr John Ruskin The Bible of Amiens
- 1906 Sésame et les lys; cyfieithiad o lyfr John Ruskin Sesame and Lilies
- 1913–27 À la recherche du temps perdu
Cyfrol Teitl Ffrangeg Cyhoeddwyd Cyfieithiad 1 Du côté de chez Swann 1913 Y ffordd ger tŷ Swann 2 À l'ombre des jeunes filles en fleurs 1919 Yng nghysgod merched ieuanc yn blodeuo 3 Le Côté de Guermantes
(dwy gyfrol)1920/21 Ffordd Guermantes 4 Sodome et Gomorrhe
(dwy gyfrol)1921/22 Sodom a Gomorrah 5 La Prisonnière 1923 Y Carcharor 6 La Fugitive
Albertine disparue1925 Y Ffoadur
Albertine wedi diflannu7 Le Temps retrouvé 1927 Ail-ddarganfod yr amser
- 1919 Pastiches et mélanges
- 1954 Contre Sainte-Beuve
- 1954 Jean Santeuil (anorffenedig)