Mark Taubert
Mae’r Athro Mark Taubert, FRCP FRCGP FLSW, sydd â gwreiddiau yng Nghymru a’r Almaen yn ddoctor ymgynghorol ac athro meddyginiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd.[1][2] Mae ei waith fel meddyg gofal lliniarol yng Nghymru, yn ôl y Western Mail [3] a gwefan Llywodraeth Cymru[4] wedi cyfrannu’n sylweddol at ddatblygu maes ei arbenigedd, a’i fod wedi ennill cydnabyddiaeth fel doctor ac ymgyrchydd ar lefel genedlaethol a rhyngwladol.
Mark Taubert | |
---|---|
Ganwyd | 1975 Hessen |
Dinasyddiaeth | Cymru Yr Almaen |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | ymchwilydd |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | TEDx talk |
Gwobr/au | Cymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru, Cymrawd Coleg Brenhinol y Meddygon Llundain, Fellow of the Royal College of General Practitioners, Fellow of the Faculty of Medical Leadership and Management |
Gwefan | https://profiles.cardiff.ac.uk/honorary/taubertm |
Wedi sgwrs â chlaf ar ei wely angau, cafodd ei ysgogi i ysgrifennu at y diweddar David Bowie ym mis Ionawr 2016,[5] a’r llythyr yn denu cryn sylw ledled y byd.[6][7][8][9] Ar ben hynny, cafodd y llythyr ei drosi i’r Gymraeg (gweler y Dolenni Allanol).
Fe yw sylfaenydd Talk CPR, ymgyrch rhyngwladol i hyrwyddo gwybodaeth a thrafodaeth ynghylch penderfyniadau i beidio â dechrau adfywio cardio-pwlmonaidd, pwnc a all fod yn destun dadl. Mae hefyd yn gadeirydd cenedlaethol ar y Grŵp Gofal Ymlaen Llaw ac at y Dyfodol o Weithrediaeth GIG Cymru.
Gwaith cyfryngau
golyguMae wedi cyhoeddi sawl erthygl ar ofal lliniarol mewn cylchgronau rhyngwladol, megis y Washington Post [10] a'r Guardian.[11][12] Fe yw sylfaenydd Talk CPR[13][14], ymgyrch rhyngwladol i hyrwyddo gwybodaeth a thrafodaeth ynghylch penderfyniadau i beidio â dechrau adfywio cardio-pwlmonaidd (fe’i adnabyddir hefyd fel DNACPR), pwnc a all fod yn destun dadl. Ymwelwyd â’i adnoddau esboniadol Talk CPR dros filiwn o weithiau ar draws y byd, [15] ac mae wedi cael ei gyfweld a thrafod y pwnc gan BBC News at Six a BBC News at 10.
Cyflwynodd Taubert drafodaeth TEDx ar ddefnydd iaith mewn gofal lliniarol.[16] Ar ben hynny, fe gafodd ei gynnwys ar ddau recordiad ar thema ofal lliniarol ar gyfer Listening Project BBC y DU yn 2019 [17] a 2020 [18] a hefyd ar raglen BBC Horizon ‘We need to talk about Death’ gyda Kevin Fong.[19]
Gwobrau
golyguMae Taubert wedi ennill gwobrau cenedlaethol a rhyngwladol am ei waith addysgu a chlinigol, yn cynnwys gwobr Bafta am fod yn rhan o dîm gofal mewn rhaglen ddogfennol gan ITV.[20] Dyfarnwyd gwobr genedlaethol clodfawr iddo sef Addysgwr Clinigol BMJ/BMA y flwyddyn [21][22], Gwobr Hyfforddwr Gorau Cymru 2016 [23] a Gwobr Coleg Brenhinol y Meddygon am Ragoriaeth mewn Gofal Cleifion.[24]
Llythyr agored i David Bowie
golyguYn 2016, cyhoeddodd lythyr i ddiolch i David Bowie ar ôl marwolaeth y cantor, gan gyfeirio at albwm olaf Bowie, Blackstar. [25][26] Yn gyntaf, cyhoeddwyd y llythyr yn y British Medical Journal [27][28] ac yna'r Independent Newspaper [29] ac yna ei rannu gan fab David Bowie, Duncan Jones.[30] Fe ddenodd ddiddordeb mawr ar-lein ac yn ystafelloedd newyddion y byd.[31][32][33] Yn sgil y sylw hyn, cafodd ei ddarllen yn gyhoeddus mewn digwyddiadau gan enwogion megis yr actor Benedict Cumberbatch[34] a'r cantor Jarvis Cocker [35] mewn digwyddiadau cyhoeddus. Mae’r llythyr yn mynd i’r afael â gofal lliniarol a chynllunio ar gyfer gofal diwedd oes. Daeth hanes Bowie yn ffordd o godi agweddau pwysig ar farw gyda chlaf gofal lliniarol. [36][37]
Fe’i gyfansoddwyd yn ddarn pedwarawd tant cerddoriaeth glasurol i BBC Radio 3, gan gynnwys Taubert yn darllen y llythyr.[38] [36] Aeth wedyn ar daith, yn lansio yng Ngholeg Cerdd Frenhinol Gogledd Lloegr[39] ac Ysgol Gerdd Frenhinol yr Alban. Yn ôl yr Herald Newspaper Scotland ‘i gefndir cerddorol, darllenwyd llythyr agored i Davie Bowie gan y meddyg gofal lliniarol Mark Taubert, a ddathlwyd yn rhan o nodi marwolaeth y seren roc, ac fe’i berfformiwyd yma er cof am bedair mlynedd ers iddo farw’.[40]
Yn ogystal â hyn, argraffwyd y llythyr mewn sawl llyfr, gan gynnwys ‘David Bowie – A Life’ [41] gan Dylan Jones a ‘Letters of Note – Music’ [42] ggan Shaun Usher, fel rhan o’r digwyddiad brand ‘Letters Live’, lle y darllenwyd y llythyr yn uchel ddwywaith.
Dolenni allanol
golygu- Prifysgol Caerdydd Tudalen Broffil Staff Archifwyd 2023-01-29 yn y Peiriant Wayback
- Google Scholar Publications
- Erthyglau Newyddion gan ac am Mark Tauber ar Pressreader
- Llythyr o ddiolch i David Bowie oddi wrth feddyg gofal lliniarol
- TalkCPR TalkCPR.cymru
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Prof. Mark Taubert Cardiff University School of Medicine Staff Profile". Cardiff University School of Medicine Staff Profile Page. 2020. Cyrchwyd 2022-01-05.
- ↑ Taubert, Mark (2020-05-31). "Coronavirus: Helping the bereaved with emotional PPE". BBC News. Cyrchwyd 2022-01-13.
- ↑ Smith, Mark (8 Hydref 2018). "'I felt as if I had come to my homeland'- the doctors from overseas who are vital to Wales' National Health Service". Western Mail. t. 28.
- ↑ Government, Wales (9 Mawrth 2023). "Dr Mark Taubert" (yn Saesneg).
- ↑ Taubert, Mark (29 Ionawr 2016). "Llythyr o ddiolch i David Bowie oddi wrth feddyg gofal lliniarol". BMJ Supportive & Palliative Care. https://blogs.bmj.com/spcare/2016/01/29/llythyr-o-ddiolch-i-david-bowie/.
- ↑ Vincent, Alice (18 IOnawr 2016). "'Thank you for Blackstar': Palliative care doctor writes open letter to David Bowie". The Telegraph Newspaper (yn Saesneg). Check date values in:
|date=
(help) - ↑ Leopold, Todd (2016-01-08). "David Bowie's son shares powerful letter". CNN (yn Saesneg). Cyrchwyd 28 Rhagfyr 2021.
- ↑ "Bowie's son shares thank you from palliative care doctor". New Zealand Herald. 18 Ionawr 2016.
- ↑ "Duncan Jones, il figlio di Bowie, rompe il silenzio con una toccante lettera". Rolling Stone Magazine Italy. 18 Ionawr 2016.
- ↑ Taubert, Mark (11 Ionawr 2019). "What's the last song you want to hear before you die?". The Washington Post.
- ↑ Taubert, Mark (3 Chwefror 2016). "This is not Casualty- In real life, CPR is brutal and usually fails". The Guardian Newspaper.
- ↑ Taubert, Mark (19 June 2023). "I thought I should always be positive with my patients – until I found out how damaging that can be". The Guardian Newspaper.
- ↑ Taubert, Mark; Norris, James; Edwards, Sioned; Snow, Veronica; Finlay, Ilora Gillian (December 2018). "Talk CPR - a technology project to improve communication in do not attempt cardiopulmonary resuscitation decisions in palliative illness". BMC Palliative Care 17 (1): 118. doi:10.1186/s12904-018-0370-9. PMC 6195698. PMID 30340632. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=6195698.
- ↑ "Creating a sustainable, prudent & vibrant NHS- The TalkCPR project". Western Mail. 2016-12-05. tt. 57–58. Cyrchwyd 2022-01-13.
- ↑ Hughes, Mary (2022-10-02). "Palliative care in the 'Kingdom in the sky': Lesotho". European Association for Palliative Care. Cyrchwyd 2022-01-05.
- ↑ "Why Language Matters When You Know You Are Dying". TEDx. 18 June 2017. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2024-01-04. Cyrchwyd 4 Ionawr 2023.
- ↑ Glover, Fi (2019-11-08). "The Listening Project- Mark and Faye, Trainer and Trainee". BBC Radio 4 - The Listening Project. BBC. Cyrchwyd 2022-01-05.
- ↑ Glover, Fi (2020-03-08). "BBC Radio 4 Listening Project- Sunday Edition: Mark and Darren - Strangers in conversation". BBC Radio 4. Cyrchwyd 2022-01-04.
- ↑ Hogan, Michael (23 Ionawr 2019). "Horizon: We need to talk about Death Review: Would better palliative care help us to die happier?". Telegraph Newspaper.
- ↑ "ITV - Velindre, Hospital of Hope". 2018-04-11.
- ↑ "Leading Clinical teachers awarded for their work". Western Mail. 2017-04-10. t. 28. Cyrchwyd 2022-01-13.
- ↑ "Velindre Doctor Wins Clinical Teaching Award". Glamorgan Gem. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-12-28. Cyrchwyd 28 Rhagfyr 2021.
- ↑ Smith, Mark (2017-04-10). "Awards recognise our talented clinical teachers". Echo Newspaper. t. 25. Cyrchwyd 2022-01-13.
- ↑ "The last thing you want to talk about? CPR in palliative illness - EPCA Awards 2019". Royal College of Physicians. Cyrchwyd 28 Rhagfyr 2021.
- ↑ "Un ejemplo para los cuidados paliativos". El Mundo Newspaper. Ionawr 2016. Cyrchwyd 2022-01-05.
- ↑ Best, Chloe (2016). "David Bowie's son returns to Twitter to share moving thank you letter from doctor". Hello Magazine. Cyrchwyd 2022-01-20.
- ↑ Taubert, Mark (2016). "Thank You Letter to David Bowie from a Palliative Care Doctor". BMJ Supportive & Palliative Care 6 (4): 500–501. doi:10.1136/bmjspcare-2016-001242. PMID 27760747. https://spcare.bmj.com/content/6/4/500.
- ↑ McDermott, Maeve (19 Ionawr 2016). "David Bowie's son reveals poignant letter from doctor". USA Today.
- ↑ Taubert, Mark (22 Ionawr 2016). "David Bowie: NHS care doctor publishes tribute to the Starman". Independent Newspaper.
- ↑ Powell, Emma (18 Ionawr 2016). "David Bowie's son breaks silence to post touching letter from doctor to his late father". Evening Standard.
- ↑ "David Bowie helped lift taboo on death". BBC News. 2016. Cyrchwyd 2022-01-05.
- ↑ Andrea, Park (18 Ionawr 2016). "Duncan Jones shares doctor's letter to David Bowie". CBS News.
- ↑ "David Bowie's son returns to Twitter". Times of India. 17 Ionawr 2016.
- ↑ "Benedict Cumberbatch read out a Welsh doctor's letter about dying". WalesOnline. Cyrchwyd 28 Rhagfyr 2021.
- ↑ "Watch Jarvis Cocker read a letter to David Bowie about end-of-life-care". Telegraph. Cyrchwyd 28 Rhagfyr 2021.
- ↑ 36.0 36.1 Rogers, Jude (2020-01-22). "Cremate me to the sound of Disco Inferno". The Guardian. Cyrchwyd 2022-04-01.
- ↑ Vincent, Alice (2016-01-18). ""Thank you for Blackstar"- Palliative Care doctor writes open letter to Bowie". The Telegraph. Cyrchwyd 2022-01-22.
- ↑ Uren, John (11 April 2017). "BBC Radio 3' Hear & Now- Kammerklang: John Uren's 'Her Own Dying Moments' - a thank you letter to David Bowie from palliative care doctor Mark Taubert".
- ↑ "Decontamination #7 – Boulez/Bowie". Royal Northern College of Music Concerts. 2016-11-01.
- ↑ Bruce, Keith (12 Ionawr 2020). "Music: Aurea Quartet at the Royal Conservatoire of Scotland, Glasgow". The Herald Scotland Newspaper.
- ↑ Jones, Dylan (2017). David Bowie - A Life. Crown Archetype. tt. 498–501. ISBN 978-0451497833.
- ↑ Usher, Shaun (2020). Letters of Note Music. Canongate. tt. 18–25. ISBN 9781786895592.