Mary Anning
Casglydd ffosiliau a phalaeontolegydd o Loegr oedd Mary Anning (21 Mai 1799 - 9 Mawrth 1847). Daeth yn adnabyddus ledled y byd am ddarganfyddiadau pwysig a wnaed ganddi mewn gwelyau ffosil morol Jwrasig yn y clogwyni ar hyd Sianel Lloegr yn Lyme Regis yn swydd Dorset yn ne-orllewin Lloegr.[1] Cyfrannodd ei chanfyddiadau at newidiadau pwysig mewn meddwl gwyddonol am fywyd cynhanesyddol a hanes y Ddaear.
Mary Anning | |
---|---|
Portread o Mary Anning a'i chi, Tray, cyn 1842. | |
Ganwyd | 21 Mai 1799, 1799 Lyme Regis |
Bu farw | 12 Mawrth 1847 Lyme Regis |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Galwedigaeth | paleontolegydd, trader of naturalia, fossil collector |
Adnabyddus am | discovery, Gesamtverband der Deutschen Versicherungswirtschaft |
Prif ddylanwad | Elizabeth Philpot |
Byddai Anning yn chwilio am ffosilau yng nghlogwyni Blue Lias, yn enwedig yn ystod misoedd y gaeaf pan oedd tirlithriadau'n amlygu ffosilau newydd y bu'n rhaid eu casglu'n gyflym cyn iddynt gael eu colli i'r môr. Bu bron iddi farw yn 1833 mewn tirlithriad a laddodd ei chi, Tray. Roedd ei darganfyddiadau yn cynnwys y sgerbwd ichthyosaur cyntaf; dau o'r sgerbydau plesiosaur (bron â bod) cyflawn cynharaf; y sgerbwd pterosaur cyntaf i'w ddarganfod y tu allan i'r Almaen; ynghyd ag amryw o ffosilau pysgod pwysig. Chwaraeodd ei harsylwadau rôl allweddol yn y darganfyddiad bod coprolitau, a elwid yn gerrig besoar ar y pryd, yn ysgarthion a oedd wedi'u ffosileiddio. Darganfu hefyd fod ffosilau belemnit yn cynnwys codennau inc wedi'u ffosileiddio fel rhai o seffalopodau modern. Pan beintiodd y daearegwr Henry De la Beche ei waith Duria Antiquior, y gynrychiolaeth ddarluniadol gyntaf o olygfa o fywyd cynhanesyddol a ddeilliodd o adluniadau ffosil, fe'i seiliwyd yn bennaf ar ffosilau y gwnaeth Anning eu darganfod, a gwerthodd brintiau ohono er ei budd.
Fel menyw ac yn Ymneilltuwraig, nid oedd Anning yn cyfranogi'n llawn yng nghymuned wyddonol gwledydd Prydain y 19eg ganrif, gan mai boneddigion Anglicanaidd yn bennaf oedd yn troi yn y cylchoedd hynny. Cafodd drafferth ariannol am lawer o'i bywyd. Roedd ei theulu'n dlawd, a bu farw ei thad, gwneuthurwr cabinet, pan oedd yn un ar ddeg oed.
Daeth Anning yn adnabyddus mewn cylchoedd daearegol yng ngwledydd Prydain, gweddill Ewrop ac yn America, ac ymgynghorwyd â hi ar faterion anatomeg yn ogystal â chasglu ffosilau. Serch hynny, fel menyw, nid oedd yn gymwys i ymuno â Chymdeithas Ddaearegol Llundain ac ni chafodd bob amser gydnabyddiaeth lawn am ei chyfraniadau gwyddonol. Yn wir, ysgrifennodd mewn llythyr: "Mae'r byd wedi fy nefnyddio mewn ffordd mor angharedig, rwy'n ofni ei fod wedi gwneud i mi amau pawb."[2] Ymddangosodd yr unig ysgrif wyddonol a gyhoeddodd yn ystod ei hoes yn y Magazine of Natural History ym 1839, darn o lythyr oedd Anning wedi'i ysgrifennu at olygydd y cylchgrawn yn cwestiynu un o'i honiadau.[3]
Ar ôl ei marwolaeth yn 1847, denodd hanes anarferol ei bywyd ddiddordeb cynyddol. Ysgrifennodd un awdur di-enw yn All the Year Round, a olygwyd gan Charles Dickens, y geiriau canlynol amdani ym 1865: “mae merch y saer wedi ennill enw iddi'i hun, ac mae wedi ei haeddu.”[2] Honnir yn aml mai ei stori oedd yr ysbrydoliaeth ar gyfer cwlwm tafod Terry Sullican yn 1908: "She sells seashells on the seashore".[4][5] Yn 2010, 100 mlynedd ar ôl ei marwolaeth, cafodd Anning ei chynnwys ar restr gan y Gymdeithas Frenhinol o ddeg menyw o wledydd Prydain sydd wedi dylanwadu fwyaf ar hanes gwyddoniaeth.[6]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Mae Dennis Dean yn nodi fod Anning yn ynganu ei henw fel "Annin" (gweler Dean 1999), a ohan ysgrifennodd ei hennw i Carl Gustav Carus, cynorthwy-ydd i'r Brenin Frederick Augustus II o Sacsoni, ysgrifennodd "Annins" (see Carus 1846).
- ↑ 2.0 2.1 Charles Dickens, Mary Anning the Fossil Finder (Chwefror 1865), tt.60-63
- ↑ Torrens 1995
- ↑ "Archived copy". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 20 Medi 2016. Cyrchwyd 2016-08-29. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help)CS1 maint: archived copy as title (link) - ↑ Montanar, Shaena (2015-05-21). "Mary Anning: From Selling Seashells to One of History's Most Important Paleontologists". Forbes [Internet Archive cache]. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 17 Mawrth 2016. Cyrchwyd 2016-11-03. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help) - ↑ "Most influential British women in the history of science". The Royal Society. Cyrchwyd 11 Medi 2010.