Melun yw prifddinas département Seine-et-Marne yn région Île-de-France. Gyda pgoblogaeth o 37,835 yn 2007, hi yw trydydd dinas Seine-et-Marne o ran poblogaeth, ar ôl Chelles a Meaux.

Melun
Cerflun o Jacques Amyot o flaen yr hôtel de ville
Mathcymuned Edit this on Wikidata
Fr-Paris--Melun.ogg Edit this on Wikidata
Poblogaeth42,367 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethLouis Vogel Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+01:00, UTC+2 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Daearyddiaeth
SirSeine-et-Marne, arrondissement of Melun Edit this on Wikidata
GwladBaner Ffrainc Ffrainc
Arwynebedd8.04 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr54 metr, 37 metr, 102 metr Edit this on Wikidata
GerllawAfon Seine, Almont Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaLa Rochette, Rubelles, Vaux-le-Pénil, Vert-Saint-Denis, Voisenon, Dammarie-les-Lys, Maincy, Le Mée-sur-Seine Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau48.5397°N 2.6592°E Edit this on Wikidata
Cod post77000 Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Maer Melun Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethLouis Vogel Edit this on Wikidata
Map

Saif Melun 41 km i'r de-ddwyrain o ddinas Paris, ger afon Seine. Mae rhan o'r ddinas ar ynys yn y Seoune, yr île Saint-Étienne.

Ceir cogfnod o'r ddinas yn y cyfnod Galaidd fel Melodunum. Dyddia'r enw modern o'r 6g. Anrheithiwyd y ddinas gan y Llychlynwyr yn 845. Byddai'r brenhinoedd Capetaidd cynnar yn aros yn Melun yn aml, ac adeiladwyd castell yma. Daeth Abélard yma yn 1102, wedi iddo gael ei yrru o Baris. Yn 1420, cipiwyd y ddinas gan y Saeson a'r Bwrgwyniaid wedi gwarchae hir. O'r gwarchae yma y cafodd y ddinas ei harwyddair, Fida muris usque ad mures ("Ffyddlon i'r muriau hyd at lygod mawr", hynny yw, hyd at fwyta llygod mawr.)

  NODES