Gwleidydd ac entrepreneur o'r Unol Daleithiau a fu'n Llywodraethwr talaith Massachusetts o 2003 hyd 2007 yw Willard Mitt Romney (ganwyd 12 Mawrth 1947)[1]. Ef oedd ymgeisydd y Blaid Weriniaethol yn etholiad arlywyddol 2012, a chollodd i'r deiliad Barack Obama.

Mitt Romney
Mitt Romney


70fed Llywodraethwr Massachusetts
Cyfnod yn y swydd
2 Ionawr, 2003 – 4 Ionawr 2007
Rhagflaenydd Paul Cellucci
Olynydd Deval Patrick

Geni 12 Mawrth, 1947
Detroit, Michigan
Plaid wleidyddol Gweriniaethol
Priod Ann Romney
Plant Taggart, Matthew, Joshua, Benjamin, Craig
Alma mater Prifysgol Stanford, Prifysgol Brigham Young, Prifysgol Harvard
Crefydd Mormoniaeth
Llofnod

Mab Leonore a George W. Romney (Llywodraethwr Michigan, 1963-1969) yw Mitt Romney. Ym 1969 priododd Ann Davies. Ym 1971, graddiodd gyda gradd Baglor y Celfyddydau gan Brifysgol Brigham Young ac, ym 1975, gyda Juris Doctor a Meister Gweinyddu Busnes oddi wrth Prifysgol Harvard. Yn 2002 cafodd ei ethol yn llywodraethwr talaith Massachusetts.

Dilynodd grefydd ei dad, fel Mormon.[2]

Cyfeiriadau

golygu
  1. Home sweet home? Michigan primary a challenge for Romney'; papur newydd: USA Today Archifwyd 2012-07-03 yn y Peiriant Wayback 20 Chwefror 2012
  2. Romney Gains Momentum As He Keeps On Running; awdur: Gell, Jeffrey N.; papur newydd: The Harvard Crimson; dyddiad cyhoeddi: 21 Hydref 1994.

Dolenni allanol

golygu
   Eginyn erthygl sydd uchod am un o Unol Daleithiau America. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
  NODES