Mohammed Ali Jinnah
Sefydlydd gwladwriaeth annibynnol Pacistan oedd Mohammed Ali Jinnah (Wrdw: محمد على جناح neu Muhammad Ali Jinnah) (25 Rhagfyr 1876 – 11 Medi 1948).
Mohammed Ali Jinnah | |
---|---|
Ganwyd | 1870s Karachi |
Bu farw | 11 Medi 1948 Karachi |
Dinasyddiaeth | Pacistan, y Raj Prydeinig |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | cyfreithiwr, bargyfreithiwr, ymladdwr rhyddid |
Swydd | Governor-General of Pakistan, Speaker of the National Assembly of Pakistan, President of the Constituent Assembly of Pakistan, member of the Central Legislative Assembly |
Plaid Wleidyddol | Cyngres Genedlaethol India, All India Muslim League, Muslim League |
Tad | Jinnahbhai Poonja |
Mam | Mitthibai Jinnahbhai |
Priod | Emibai Jinnah, Rattanbai Jinnah |
Plant | Dina Wadia |
Perthnasau | Neville Wadia |
Gwefan | http://majinnah.com.pk |
llofnod | |
Ganed Jinnah yn Karachi yn 1876. Astudiodd y gyfraith yn Lloegr ac am gyfnod hir bu ganddo bractis cyfreithiwr llwyddiannus yn India cyn iddo droi ei law at wleidyddiaeth.
Fel aelod o'r Cynghair Mwslemaidd yn ogystal â Chyngres Genedlaethol India, roedd yn gryf o blaid undeb Hindŵ-Fwslemaidd hyd 1930 pan ymddeolodd o'r Gyngres mewn protest yn erbyn polisïau Mahatma Gandhi.
Roedd yn arlywydd y Cynghair Mwslemaidd yn 1916 a 1920 ac wedyn o 1934 ymlaen. Yn ystod y cyfnod olaf hwnnw daeth i gefnogi a hyrwyddo'r polisi o greu gwladwriaeth Fwslim ar wahân i Fwslemiaid India. Gwireuddwyd y breuddwyd yn 1947 ond am gost uchel mewn bywydau coll yn ystod ymraniad India.
Bu farw yn 1948 a chodwyd beddrod ysblennydd iddo (Mazar-e-Quaid) yn ei ddinas enedigol.