Mossad
Mossad (Hebraeg: המוסד למודיעין ולתפקידים מיוחדים HaMossad leModi'in uleTafkidim Meyuhadim) yw asiantaeth diogelwch cenedlaethol Israel. "Mossad" yw'r gair Hebraeg am y sefydliad. Ystyrir ymaelodaeth o Mossad yn fraint aruchel gan rai yn y gymuned Israelaidd ac mae eraill yn ei ystyried yn un o'r asiantaethau diogelwch cenedlaethol mwyaf effeithiol yn y byd. Er hynny, mae wedi cael ei feirniadu am ddefnyddio dulliau anghyfreithlon ar raddfa eang, yn cynnwys herwgipio a chuddlofruddiaeth.
Dulliau dadleuol
golyguEr bod Israel yn gynghreiriad pwysig i'r Unol Daleithiau yn y Dwyrain Canol, mae arbenigwyr diogelwch Llu Arfog UDA yn wyliadwrus o Mossad. Mewn adroddiad ar y posiblrwydd o sefydlu llu o 20,000 o filwyr i warchod cytundeb i gael 'ateb dwy wladwriaeth' - Palesteina ac Israel - yn y rhanbarth, roedd SAMS (School of Advanced Military Studies) Byddin yr Unol Daleithiau yn ystyried fod Mossad yn "Wildcard. Ruthless and cunning. Has capability to _target U.S. forces and make it look like a Palestinian/Arab act."[1]
Ceir tystiolaeth fod dulliau Mossad yn cynnwys sefydlu celloedd ffug-Al-Qaeda yn y Tiriogaethau Palesteinaidd a Libanus. Defnyddiwyd presenoldeb honedig celloedd Al-Qaeda yn "gweithio gyda Hezbollah" yn Libanus gan Ariel Sharon, Prif Weinidog Israel ar y pryd, fel un o'r rhesymau dros ymosod ar dde Libanus yn 2002.[2] Tua'r un adeg, arestiwyd aelodau o "gell Al-Qaeda" a sefydlwyd gan Mossad yn Llain Gaza: yn ôl Yasser Arafat sefydlodd Mossad y "gell" er mwyn cyfiawnhau ymosodiadau ar Lain Gaza.[3]
Ym Mehefin 2004, arestiwyd Israeliad a oedd yn aros yn y Philipinau yn anghyfreithlon gan yr heddlu ar gyhuddiad o "weithio i Al-Qaeda" a chynorthwyo grwpiau terfysgol Islamig sy'n weithgar yn ne'r wlad i ymosod ar dargedau Gorllewinol. Roedd ganddo "digon o ffrwydron i suddo llong" yn ei feddiant.[4]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "U.S. troops would enforce peace under Army study" Archifwyd 2009-02-01 yn y Peiriant Wayback Testun erthygl a gyhoeddwyd yn The Washington Post.
- ↑ BBC News 12.05.2002
- ↑ BBC News 12.08.2002
- ↑ "In Baguio City: Israeli terror suspect falls; cops eye link to al-Qaeda" 14.06.2004 Archifwyd 2004-08-18 yn y Peiriant Wayback Manila Bulletin Online