Mynyddoedd Admiralty
Un o is-gadwyni'r Mynyddoedd Trawsantarctig yw Mynyddoedd Admiralty, a leolir yn Nhir Victoria yn yr Antarctig.
Mynydd uchaf y gadwyn yw Mynydd Herschel (3335 metr).
Mae'r mynyddoedd yn gartref i rywogaethau o gen, algae, a ffwng. Ar yr arfordir ceir sawl rhywogaeth o bengwiniaid, morloi ac adar y môr ond mae'r amgylchedd yn rhy galed i anifeiliaid yn y mynyddoedd eu hunain.