Nagasaki

prifddinas Nagasaki Prefecture ar ynys Kyushu yn Japan

Dinas a phorthladd yn Japan yw Nagasaki (長崎市, Nagasaki-shi). Saif ar ynys Kyushu, yn rhan ddeheuol y wlad. Ar 1 Ebrill 2008, roedd y boblogaeth yn 445,172.

Nagasaki
Mathdinas Japan Edit this on Wikidata
Poblogaeth404,656 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1 Ebrill 1889 Edit this on Wikidata
AnthemNagasaki shika Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethShirō Suzuki Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+09:00 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Hiroshima, Saint Paul, Santos, Porto, Middelburg, Fuzhou, Vaux-sur-Aure, San Isidro Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirNagasaki Edit this on Wikidata
GwladBaner Japan Japan
Arwynebedd406,350,000 m² Edit this on Wikidata
Uwch y môr105 metr Edit this on Wikidata
GerllawNagasaki Bay, Tachibana Bay, Urakami Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaIsahaya, Saikai, Togitsu, Nagayo Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau32.74953°N 129.87964°E Edit this on Wikidata
Cod post850-0002–852-8154 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff deddfwriaetholQ97183008 Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
maer Nagasaki Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethShirō Suzuki Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethHeritage of Portuguese Influence Edit this on Wikidata
Manylion
Porthladd Nagasaki

Mae Nagasaki wedi bod yn borthladd pwysig ers canrifoedd. Ym mae Nagasaki ceid ynys Dejima, lle roedd masnachwyr Portiwgeaidd, ac yn ddiweddarch o'r Iseldiroedd, yn dod i fasnachu.

Yn yr Ail Ryfel Byd, roedd Nagasaki yn un o'r ddwy ddinas a ddifrodwyd gan fom atomig. Dri diwrnod wedi i'r Unol Daleithiau ollwng bom atomig ar Hiroshima, gollyngasant fom cyffelyb ar Nagasaki ar 9 Awst 1945. Lladdwyd tua 39,500 o'r trigolion, ac anafwyd tua 25,000.

Ar 17 Ebrill 2007, saethwyd maer Nagasaki, Itchō Itō, yn farw ger gorsaf y rheilffordd. Roedd y llofrudd, Tetsuya Shiroo, yn un o arweinyddion y Suishin-kai, grŵp cysylltiedig a'r Yamaguchi-gumi, y gangen fwyaf o'r Yakuza.

Enwogion

golygu
  Eginyn erthygl sydd uchod am Japan. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
  NODES
os 6