Neidr y gwair
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Reptilia
Urdd: Squamata
Is-urdd: Serpentes
Teulu: Colubridae
Genws: Natrix
Rhywogaeth: N. natrix
Enw deuenwol
Natrix natrix
Linnaeus, 1758

Mae Neidr y gwair (Natrix natrix; hefyd neidr lwyd, neidr fraith) yn golwbriad Ewrasia anwenwynig lled-ddyfrdrig.

Yn nodweddiadol mae Neidr y gwair yn wyrdd tywyll neu'n frown mewn lliw efo coler melyn tu ôl i'r pen. Gall y lliw hefyd amrywio o lwyd i ddu. Mae'r ochr isaf yn oleuach mewn lliw. Ym Mhrydain Neidr y gwair yw'r ymlusgiad fwyaf yn cyrraedd hyd at 120 cm mewn hyd.

Maent yn ysglyfaethu'n bennaf ar amffibiaid, yn enwedig y froga cyffredin (Rana temporaria), er bod nhw weithiau'n bwyta mamolion a physgod. Mae Nadroedd y gwair yn nofwyr cryf ac fel arfer yn cael eu ddarganfod yn agos i ddŵr croyw.

Darganfyddir y neidr mewn ardaloedd iseldir Lloegr a Chymru ond mae bron yn absennol o'r Alban ac ni ffeindir yn Iwerddon. Mae ganddo ddosbarthiad llydan yn Ewrop cyfandirol, o dde'r Llychlyn i dde'r Eidal. Darganfyddir hefyd yng ngogledd-gorllewin Affrica. Mae Nadroedd y gwair Prydeinig yn perthyn i'r isrywogaeth Natrix natrix helvetica, ond mae arbenigwyr wedi'u gwahaniaethu ar y nifer o isrywogaethau.

  NODES
os 6