Dilledyn isaf merch ydy pais (Saesneg: petticoat); y lluosog ydy peisiau.

Merch ar siglen yn dangos ei phais wen. Llun gan Louis Denis-Valvérane.
Gellir ystyried gwisg y balerina, neu'r dilledyn modern hwn yn fath o bais.

Caiff ei wisgo o dan sgert a chaiff ei ystyried yn ddilledyn isa. Daeth y bais yn boblogaidd yn yr 17g, er nad oedden nhw'n cael eu cyfrif yn ddilledyn isaf bryd hynny. Cânt eu gwisg naill ai er mwyn cadw'r corff yn gynnes, neu i roi siap i'r sgert, neu hyd yn oed yn bryfoclyd.

Arferai'r gair olygu 'dilledyn' fel yn yr hwiangerdd honno a geir yn Y Gododdin: Pais Dinogad pais fraith...

Dywediadau

golygu
  • Rhy hwyr codi pais ar ôl piso: peth afrad ydy ymddiheuro
  • Llywodraeth y bais: y wraig yn rheoli.
  NODES