Pridd a ffurfiwyd yn ystod cyfnodau daearegol cynharach na'r presennol yw Palaeosol (neu paleosol) a astudir o fewn Gwyddorau daear ac yn enwedig o fewn Daeareg a Paleontoleg. Fel arfer, mae'r fath briddoedd wedi'u claddu dan haen o ddeunydd diweddarach, neu maent yn rhan annatod o ddilyniant o greigiau gwaddod daearol neu lifoedd lafa.

Esiampl Paleosols, yr Eidal

Ond o fewn y maes Daeareg Cwarternaidd, ceir ail ystyr i'r gair 'Palaeosol': sef "priddoedd a ffosileiddiwyd" ac a gladdwyd o dan (neu oddi fewn) i dyddodion neu haenau o lafa. Digwydd hyn ym mhob cyfandir, fel a ddangoswyd gan Rettallack (2001),[1] Kraus (1999),[2] a phapurau a llyfrau eraill.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Retallack, G.J., 2001, Soils of the Past, Ail rifyn; Efrog Newydd, Blackwell Science. ISBN 0-632-05376-3
  2. Kraus, M.J., 1999, Paleosols in clastic sedimentary rocks: their geologic applications, Earth Science Review 47:41-70.
  NODES