Sioe gyhoeddus yw parêd a'i brif nodwedd yw gorymdaith drefnus neu seremonïol.[1][2] Ceir rhywfaint o rodres i barêd o ran gwisg, canu a cherddoriaeth, baneri, balwnau, anifeiliaid, a cherbydau. Yn aml digwyddiad blynyddol yw'r parêd sy'n dathlu gŵyl, er enghraifft dyddiau'r seintiau, gwyliau crefyddol, dyddiadau annibyniaeth, neu ddathliadau "balchder" (er enghraifft balchder hoyw). Ceir "Parêd y Cenhedloedd" mewn seremonïau agoriadol nifer o gystadlaethau chwaraeon rhyngwladol, gan gynnwys y Gemau Olympaidd a Gemau'r Gymanwlad.

Parêd i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi yng Nghaerdydd, 2007.

Mae paredau yn hynod o boblogaidd yn Unol Daleithiau America fel modd i fynegi cyd-hunaniaeth mewn ardaloedd trefol, ac fel cyfle i hyrwyddo ymgyrchoedd gwleidyddol neu hysbysebu busnesau yn yr awyr agored ac ar y teledu. Un o'r diwrnodau parêd mwyaf poblogaidd yw Diwrnod Annibyniaeth yr Unol Daleithiau, ar 4 Gorffennaf, a nodir gan seindorfeydd, baneri, gorymdeithiau o filwyr a chyn-filwyr, a thân gwyllt mewn dinasoedd a threfi ar draws y wlad. Pob Mehefin, cynhelir Parêd Diwrnod Puerto Rico ar hyd Fifth Avenue, Manhattan, gan ddenu miliynau o wylwyr. Ymhlith y gwyliau eraill a nodir gan baredau ar gyfer hunaniaethau ethnig a diwylliannol mae Gŵyl Sant Padrig, nawddsant y Gwyddelod, a Cinco de Mayo ar gyfer Americanwyr o dras Fecsicanaidd. Mae rhai paredau yn sioeau ysblennydd a ariennir gan gwmnïau i hybu cystadlaethau chwaraeon neu i ddenu hysbysebwyr a chwsmeriaid. Noddir parêd mwyaf y byd gan y siop adrannol Macy's yn Efrog Newydd ar Ddiwrnod y Diolchgarwch, sydd yn nodedig am ei falwnau enfawr o gymeriadau cartŵn. Arddangosir paredau yn ddyddiol mewn parciau thema Disney.[3]

Gall y gair parêd hefyd gyfeirio at gynulliad o filwyr i'w harolygu.[1]

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1  parêd. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 31 Awst 2014.
  2. (Saesneg) parade. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 31 Awst 2014.
  3. Gary McDonogh, "Parades" yn Encyclopedia of Contemporary American Culture, golygwyd gan Gary W. McDonogh, Robert Gregg, a Cindy H. Wong (Llundain: Routledge, 2001), t. 846.
 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
  Eginyn erthygl sydd uchod am adloniant neu hamdden. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
  NODES