Pegwn daearyddol
Pegwn daearyddol (lluosog: pegynau daearyddol) yw unrhyw un o'r ddau bwynt ar blaned, neu loeren neu gorff mawr arall, ble mae'r echel gylchdro (axis of rotation) yn cyfarfod yr wyneb; ni all fod o dan yr wyneb. Ar y Ddaear, ceir dau begwn: Pegwn y Gogledd a Phegwn y De. Defnyddir y ddau derm yma hefyd gyda chyrff eraill: "pegwn deheuol" y gwrthrych (lloeren ayb) a "phegwn deheuol" y gwrthrych. Mae'r naill yn gorwedd 90 gradd o gyhydedd y gwrthrych a'r llall 90 gradd i'r cyfeiriad croes.[1] Every planet has geographical poles.[2]
Ceir aflonyddiadau yn y cylchdro sy'n effeithio ar y pegynau hyn, gan beri iddynt symud ychydig ar yr wyneb. Er enghraifft, mae pegynau Gogledd a De'r Ddaear yn symud rhyw fetr neu ddwy dros gyfnod o ychydig flynyddoedd.[3][4] Mae cartograffeg (gan ei fod yn 'wyddoniaeth') yn mynnu lleoliad union, disymud i'r cyfesurynnau (coordinates) ac felly pennwyd lleoliad cyfartalog i'r pegynnau a gelwir y rhain yn "begynau cartograffig".
Pan fo gan unrhyw gorff faes magnetig (fel sydd gan y Ddaear) yna mae ganddo hefyd bolau magnetig.[5]
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Kotlyakov, Vladimir; Komarova, Anna (2006). Elsevier's Dictionary of Geography: in English, Russian, French, Spanish and German. t. 557. Cyrchwyd 22 June 2015.
- ↑ Hooper, William (2008). Aether and Gravitation. t. 224. Cyrchwyd 22 Mehefin 2015.
- ↑ Schar, Ray (2010). Wonderfully Weird World. t. 106. Cyrchwyd 22 June 2015.
- ↑ Lovett, Richard A. (2013-05-14). "Climate Change Has Shifted the Locations of Earth's North and South Poles". Scientificamerican.com. Cyrchwyd 2015-06-26.
- ↑ "20 Things You Didn't Know About... the North Pole". DiscoverMagazine.com. 2014-11-18. Cyrchwyd 2015-06-26.