Pencampwriaeth Agored Awstralia

Cystadleuaeth tenis flynyddol yw Pencampwriaeth Agored Awstralia. Cynhelir ym mhyfethnos olaf mis Ionawr, ac felly hwn yw'r cyntaf o dwrnameintiau'r Gamp Lawn yn y calendr tenis. Chwaraeir ar gyrtiau caled yn y Ganolfan Tenis Genedlaethol ym Mharc Melbourne, Melbourne, Awstralia. Cynhelir pencampwriaethau senglau dynion a menywod, parau dynion, menywod a chymysg, cystadlaethau i chwaraewyr ifainc a chwaraewyr mewn cadair olwyn, a gornestau cyfeillgar.

Pencampwriaeth Agored Awstralia
Math o gyfrwngdigwyddiad rheolaidd ym myd chwaraeon Edit this on Wikidata
Mathtwrnamaint tenis Edit this on Wikidata
Rhan oY Gamp Lawn Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1905 Edit this on Wikidata
LleoliadMelbourne Park Edit this on Wikidata
Yn cynnwysAO Radio, Action Audio Edit this on Wikidata
Map
GwladwriaethAwstralia Edit this on Wikidata
RhanbarthVictoria Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://ausopen.com/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Gornest senglau'r menywod yn Arena Rod Laver yn ystod Pencampwriaeth 2008

Sefydlwyd y dwrnamaint ar gyfer dynion gan Gymdeithas Tenis Lawnt Awstralasia (yn hwyrach, Awstralia) ym 1905. Cynhaliwyd y gystadleuaeth gyntaf i fenywod ym 1922. Hyd 1987, symudodd y maes chwarae rhwng Melbourne, Sydney, Brisbane, ac Adelaide, a chwaraeid ar gyrtiau gwair. Penderfynwyd i gynnal y pencampwriaethau yn barhaol ym Mharc Flinders (a ailenwyd yn Barc Melbourne ym 1996) o 1988 ymlaen.[1] O 1988 hyd 2007 chwaraeid ar gyrtiau gwyrdd "Rebound Ace", ac ers 2008 defnyddir cyrtiau glas "Plexicushion".[2] Arena Rod Laver, Arena Hisene ac Arena Margaret Court yw'r tri phrif cwrt.

Cyfeiriadau

golygu
  1. (Saesneg) Australian Open (tennis tournament). Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 8 Awst 2016.
  2. (Saesneg) Australian Open court surface is speeding up, The Age (20 Tachwedd 2007). Adalwyd 8 Awst 2016.

Dolenni allanol

golygu
  NODES