Mynyddoedd yng ngogledd Gwlad Groeg yw'r Pindus (Groeg: Πίνδος). Maent yn ymestyn am tua 160 km o'r gogledd-orllewin i'r de-ddwyrain. Y copa uchaf yw Mynydd Smolikas, 2,637 medr o uchder.

Pindus
Mathcadwyn o fynyddoedd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolllain Alpid Edit this on Wikidata
SirWestern Macedonia, Epiros, Thessalia, Sir Gjirokastër, Bwrdeistref Zagori Edit this on Wikidata
GwladBaner Gwlad Groeg Gwlad Groeg
Uwch y môr8,652 troedfedd Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau40°N 20.75°E Edit this on Wikidata
Hyd180 cilometr Edit this on Wikidata
Map

Mae'r mynyddoedd hyn yn rhan o gadwyn o fynyddoedd sy'n ymestyn o'r Alpau trwy'r Alpau Dinarig ac yn cyrraedd hyd at Fynydd Taigetos yn y de, yna'n ffurfio llawer o'r ynysoedd yn ne Môr Aegaea, megis Kythera, Antikythera, Creta, Karpathos a Rhodos, cyn ffurfio Mynyddoedd Taurus yn ne Twrci.

Ceir anifeiliaid megis yr arth a'r blaidd yn y Pindus, ac mae sgïo yn boblogaidd yn y rhannau uchaf yn y gaeaf.

  NODES