Teulu o gemau cardiau yw pocer sydd â rheolau tebyg ar fetio a safleoedd dyrneidiau. Amcan y gêm yw i ennill arian neu tsips trwy ddal y dyrnaid gorau ar ddiwedd y rhaniad.[1] Y prif ffurfiau o bocer yw Texas hold 'em, Omaha hold 'em, styd pocer a phocer tynnu.

Gêm o Texas hold 'em, y ffurf fwyaf poblogaidd o bocer.

Ystyrir pocer yn gêm gardiau genedlaethol yr Unol Daleithiau,[1] ond mae'n boblogaidd ar draws y byd. Caiff twrnameintiau eu darlledu ar deledu, ac mae'n gêm boblogaidd ar-lein.[2]

Un o'r menywod mwyaf llwyddiannus yn y gem yw Annie Duke a anwyd ar 13 Medi 1965 yn New Hampshire ac sydd hefyd yn awdur poblogaidd ac yn ddyngarwr.

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 Arnold, Peter. Chambers Card Games (Caeredin, Chambers, 2007), t. 250.
  2. (Saesneg) Going all in for online poker. Newsweek (14 Awst 2005). Adalwyd ar 6 Tachwedd 2012.

Darllen pellach

golygu
  • Mendelson, Paul. The Mammoth Book of Poker (Llundain, Robinson, 2008).
  Eginyn erthygl sydd uchod am gêm. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
  NODES