Mae Pont Brooklyn yn croesi Afon Dwyrain, yn cysylltu Manhattan a Brooklyn yn Ninas Efrog Newydd. Mae gan y bont 6 lôn ar gyfer cerbydau, a llwybr gerdded uwchben y ffordd.

Pont Brooklyn
Mathpont grog, pont gablau, pont aml-lefel, pont ddur, pont ffordd, pont reilffordd, atyniad twristaidd Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlBrooklyn Edit this on Wikidata
Agoriad swyddogol24 Mai 1883 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadDinas Efrog Newydd, Manhattan, Brooklyn Edit this on Wikidata
SirManhattan, Brooklyn Edit this on Wikidata
GwladBaner UDA UDA
Cyfesurynnau40.70567°N 73.99633°W Edit this on Wikidata
Hyd5,989 troedfedd Edit this on Wikidata
Map
Arddull pensaernïolyr Adfywiad Gothig Edit this on Wikidata
Statws treftadaethTirnod yn Ninas Efrog Newydd, National Historic Landmark, lleoliad ar Gofrestr Llefydd Hanesyddol Cenedlaethol UDA, Tentative World Heritage Site, New York State Register of Historic Places listed place, Historic Civil Engineering Landmark Edit this on Wikidata
Manylion
Deunydddur, carreg Edit this on Wikidata

Agorwyd y bont ar 24 Mai 1883, yn cymryd 14 mlynedd i'w hadeiladu ac yn costio $15 miliwn. Cynlluniwyd y bont gan John Augustus Roebling. Cyn iddo cynllunio Pont Brooklyn, roedd o wedi cynllunio pontydd dros Ceunant Niagara ac yr Afon Ohio yn Cincinnati. Cafodd o ei anafu ar ddechrau y prosiect, a bu farw 3 wythnos yn ddiweddar. Cymerodd ei fab, Washington Roebling drosodd.

Adeiladwyd ceson, blychau pren, i greu tyllau ar waelod yr afon, ac i'w llenwi efo llithfaen i roi sail i'r bont. Anadlodd y gweithwyr awyr gywasgedig yn y cesonau, a chawsont llawer ohonynt parlys môr fel canlyniad, gan gynnwys Washington Roebling; Cymerodd ei wraig Emily Roebling drosodd i orffen y prosiect.[1]

Y bont gyda'r nos

Cyfeiriadau

golygu
  NODES
Done 1
eth 6
Story 1