RAND Corporation
Melin drafod a sefydliad ymchwil yn Unol Daleithiau America yw'r RAND Corporation sydd yn ymwneud â pholisi cyhoeddus.
Enghraifft o'r canlynol | melin drafod, sefydliad di-elw |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 14 Mai 1948 |
Sylfaenydd | Henry H. Arnold, Donald Wills Douglas, Sr., Curtis LeMay |
Rhagflaenydd | Douglas, Awyrlu'r Unol Daleithiau |
Aelod o'r canlynol | ORCID, Association of American University Presses |
Gweithwyr | 1,850 |
Isgwmni/au | RAND Corporation, RAND Corporation |
Ffurf gyfreithiol | sefydliad 501(c)(3) |
Asedau | 567,996,770 $ (UDA), 605,646,656 $ (UDA) 567,996,770 $ (UDA) (2022) |
Pencadlys | Santa Monica |
Gwladwriaeth | Unol Daleithiau America |
Gwefan | https://www.rand.org/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Datblygodd y RAND Corporation o brosiect ymchwil a datblygiad a ffurfiwyd gan gwmni awyrennau Douglas, yn Santa Monica, Califfornia, ar gyfer Lluoedd Awyr Byddin yr Unol Daleithiau ym 1945. Talfyriad o'r geiriau research and development yw RAND. Sefydlwyd yn gorfforaeth ddi-elw ar wahân ym 1948 a oedd yn canolbwyntio ar faterion diogelwch cenedlaethol. Yn y 1960au ymestynnodd ei faes ymchwil i gynnwys materion mewnwladol.[1]
Mae RAND yn cyflogi cannoedd o ysgolheigion ac ymchwilwyr mewn nifer o wahanol ddisgyblaethau. Mae'n derbyn ei arian o gontractau â'r llywodraeth, elusennau, corfforaethau preifat, ac enillion ar ei waddoliad. Lleolir ei bencadlys yn Santa Monica, a mae ganddo swyddfeydd hefyd yn Washington, D.C., Dinas Efrog Newydd, Pittsburgh, Boston, New Orleans, Ridgeland, Mississippi, ac ambell ddinas dramor. Gyda chwmni Blackwell mae'n cyhoeddi cyfnodolyn chwarterol, y RAND Journal of Economics.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 (Saesneg) RAND Corporation. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 21 Mehefin 2021.
Dolenni allanol
golygu- (Saesneg) Gwefan swyddogol