Rhodri Mawr

Brenin Gwynedd a unodd llawer o Gymru ac a drechodd ymosodiadau gan y Llychlynwyr (820–878)

Rhodri ap Merfyn neu Rhodri Mawr (c. 820–877) fel yr adnabuwyd ef yn ddiweddarach, oedd y brenin cyntaf i reoli'r rhan fwyaf o Gymru a'r cyntaf hefyd i gael ei alw'n "Fawr".[1]

Rhodri Mawr
Ganwydc. 820 Edit this on Wikidata
Ynys Manaw Edit this on Wikidata
Bu farw878 Edit this on Wikidata
Ynys Môn Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethteyrn, gwron Edit this on Wikidata
SwyddTeyrnas Gwynedd, Teyrnas Powys, Teyrnas Ceredigion Edit this on Wikidata
TadMerfyn Frych Edit this on Wikidata
MamNest ferch Cadell Edit this on Wikidata
PriodAngharad ferch Meurig Edit this on Wikidata
PlantAnarawd ap Rhodri, Cadell ap Rhodri, Merfyn ap Rhodri, Tudwal Gloff Edit this on Wikidata
Llinachteulu brenhinol Gwynedd Edit this on Wikidata

Rhoddwyd y teitl hwn iddo oherwydd ei fod yn perthyn i genhedlaeth o reolwyr a oedd wedi ceisio creu (ac wedi llwyddo i greu) undod gwleidyddol yn eu gwledydd eu hunain. Roedd cyfoedion iddo, fel Siarlymaen (fr:Charlemagne) a’r Brenin Alffred, neu Alffred Fawr, wedi llwyddo i greu ymdeimlad o genedligrwydd ymhlith eu pobloedd eu hunain yn Ffrainc ac yn Lloegr.[2] Yn yr un modd, roedd Rhodri wedi uno prif deyrnasoedd Cymru o dan ei arweinyddiaeth, sef Gwynedd, Powys a'r Deheubarth (a oedd yn cynnwys Seisyllwg) ac wedi cyfarwyddo’r Cymry gyda’r syniad o uno o dan un arweinydd yn hytrach na pharhau i fod yn glytwaith o deyrnasoedd bychan.

Daeth yn Frenin Gwynedd yn 844 ar farwolaeth ei dad, Merfyn Frych, yn rheolwr Powys yn 855 a Seisyllwg yn 871. Roedd yn awr yn frenin ar y rhan fwyaf o Gymru, gyda’i deyrnas yn ymestyn o Ynys Môn i Benrhyn Gŵyr.[3]

Etifeddiaeth a Llinach

golygu

Llwyddodd Merfyn Frych a’i fab, Rhodri, i gael eu gafael ar rai o brif deyrnasoedd Cymru drwy gyfrwng cyfres o briodasau gwleidyddol yn hytrach na lansio cyfres o ymgyrchoedd milwrol. Roedd Merfyn ei hun wedi etifeddu Gwynedd yn 825 pan fu farw ei ewythr ar ochr ei fam, Hywel ap Rhodri, yn ddi-etifedd ac yn aelod gwrywaidd olaf teulu Maelgwn. Wedyn, priododd Merfyn â Nest ferch Cadell, o deulu brenhinol Powys, a phriododd Rhodri eu mab ag Angharad, chwaer Gwgon, brenin Ceredigion.[3]

Er bod Cyfraith Cymru yn gwahardd trosglwyddo unrhyw etifeddiaeth drwy linell deuluol y fam, defnyddiwyd cysylltiad Rhodri â Phowys, drwy ei fam, i gyfiawnhau bod Powys yn dod i’w feddiant yn 855 yn dilyn marwolaeth ei ewythr Cyngen ap Cadell tra'r oedd ar bererindod i Rufain. Roedd hynny ar draul y ffaith bod gan Cadell etifeddion.[2]

Yn yr un ffordd, defnyddiodd ei briodas ag Angharad ferch Meurig i gyfiawnhau ei hawl i olynu Gwgon, ei frawd-yng-nghyfraith, yn rheolwr teyrnas Seisyllwg (cyfuniad o Geredigion, Ystrad Tywi a Gŵyr) yn 871. Camp ei deyrnasiad oedd llwyddo i glymu teyrnasoedd Gwynedd, Powys a'r Deheubarth mewn undod fel bod y rhan helaethaf o Gymru o dan ei awdurdod erbyn 878.[4]

Teyrnasiad

golygu

Amlygodd Rhodri ei hun nid yn unig yn arweinydd craff ond hefyd fel milwr medrus a dewr. Wynebai fygythiadau ac ymosodiadau o sawl cyfeiriad, oddi wrth y Saeson, y Daniaid a theyrnasoedd eraill yng Nghymru.

Roedd yn gorfod wynebu pwysau gan yr Eingl-sacsoniaid ac yn gynyddol gan y Daniaid hefyd, a fu'n anrheithio Môn yn 854 yn ôl y croniclau. Yn 856 enillodd Rhodri fuddugoliaeth nodedig dros y Daniaid ger y Gogarth, Llandudno, gan ladd eu harweinydd Gormr (a elwid yn y Wyddeleg a'r Gymraeg yn Horm).[1]

Roedd ei fuddugoliaeth dros y Northmyn yn nodedig, a soniwyd amdani yn llenyddiaeth y cyfnod. Roedd ei fuddugoliaeth yn hysbys ar draws y Cyfandir. Mae dwy gerdd gan Sedulius Scotus, y bardd ac ysgolhaig Gwyddelig, wedi eu hysgrifennu yn llys Siarl Foel, brenin y Ffranciaid Gorllewinol, yn dathlu buddugoliaeth "Roricus" dros y Llychlynwyr. Cyfeiriwyd at y fuddugoliaeth yn y Brut Gwyddelig hefyd. Roedd hon yn fuddugoliaeth filwrol bwysig gan fod pŵer milwrol y Northmyn yn gryf ac yn ddidrugaredd. Erbyn 865 roeddent wedi cyrraedd ynysoedd yr Alban a sefydlu trefedigaethau yn Iwerddon, gan gynnwys un yn Nulyn. Aethant ymlaen wedyn i feddiannu teyrnasoedd brenhinol Lloegr oni bai am Wessex, a chipio tiroedd yng ngogledd Ffrainc. Cymaint oedd eu henwogrwydd bu'n rhaid i Alffred Fawr ffoi i Wlad yr Haf a Rhodri i Iwerddon ar un adeg er mwyn dianc rhag rhaib y Northmyn.[3]

Cafodd Rhodri fuddugoliaeth arall yn erbyn y Daniaid ym Mrwydr Parciau yn 872. Mae Cronicl y Tywysogion yn nodi buddugoliaeth mewn dau le, sef Bangolau (Bann Guolou neu Bannoleu) lle trechodd y Llychlynwyr yn Ynys Môn mewn brwydr galed, a’r ail ym Manegid neu Enegyd, lle cafodd y Llychlynwyr eu dinistrio.[5]

Yn 876 ymladdodd Rhodri frwydr arall yn erbyn y Daniaid, ond y tro hwn bu'n rhaid iddo ffoi i Iwerddon. Pan ddychwelodd y flwyddyn wedyn yn 877, dywedir iddo ef a'i fab Gwriad gael eu lladd gan y Saeson, sef gwŷr Mersia, er nad yw'r manylion yn hysbys.[1] Sonia rhywfaint o ffynonellau’r cyfnod mai Ceolwulf o Mersia a’i filwyr a’u lladdodd gan fod Alffred Fawr yn ymladd yn erbyn y Llychlynwyr yn Nwyrain Anglia ar y pryd. Pan enillodd ei fab, Anarawd ap Rhodri, fuddugoliaeth dros wŷr Mersia ym Mrwydr Conwy yn 881 fe'i dathlwyd yn y brutiau fel "dial Duw am Rhodri".[1]

Roedd Rhodri Fawr yn gefnogwr brwdfrydig i ddiwylliant y beirdd - traddodiad a oedd yn cofnodi hanesion y Cymry, ac mae cerdd gan yr ysgolhaig Gwyddelig, Sedulus Scottus, i Rhodri yn dangos ei bwysigrwydd fel noddwr a chefnogwr diwylliant. Hwn oedd cyfnod Canu Heledd a Llywarch Hen[6] a’r cyfnod pan fu diddordeb yn y cysylltiad brenhinol rhwng yr Hen Ogledd a llinach frenhinol teyrnasoedd Cymru. Mae’n amlwg bod safon dysg yng Nghymru’r cyfnod yn cael ei gydnabod gan Loegr, oherwydd gwahoddwyd yr ysgolhaig Asser o Dyddewi draw i Wessex gan Alffred Fawr i ysgrifennu ei gofiant.[1][3]

Yr olyniaeth

golygu

Yn ôl rhai haneswyr roedd pedwar o feibion gan Rhodri, ond dywedai eraill bod chwech ganddo. Ymhlith y meibion hynny roedd ei fab hynaf, sef Anarawd, a etifeddodd Wynedd a Phowys. Y gangen hon o’r teulu sefydlodd llys Aberffraw, ac roedd Gruffudd ap Cynan a Llywelyn Fawr ymhlith ei ddisgynyddion. Cadell oedd un o’r meibion eraill, a thad Hywel Dda, a’r gangen hon a ymsefydlodd gangen frenhinol teulu Dinefwr, a ddaeth yn bencadlys i deyrnas y Deheubarth.

  • Anarawd ap Rhodri (bu farw 913)
  • Cadell ap Rhodri (854 -907)
  • Gwriad ap Rhodri: a laddwyd mewn brwydr yn erbyn y Saeson gyda’i dad, Rhodri yn 877. Lladdwyd ei fab, Gwgawn yn 955.
  • Tudwal ap Rhodri (ganwyd 860)

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 Davies, John. (2007). Hanes cymru. Penguin Books Ltd. tt. 79, 82. ISBN 0-14-028476-1. OCLC 153576256.
  2. 2.0 2.1 Davies, John. (2007). Hanes cymru. Penguin Books Ltd. t. 79. ISBN 0-14-028476-1. OCLC 153576256.
  3. 3.0 3.1 3.2 3.3 Evans, Gwynfor, 1912- (1986). Seiri cenedl y Cymry. Llandysul: Gwasg Gomer. tt. 43–47. ISBN 0-86383-244-X. OCLC 16692917.CS1 maint: multiple names: authors list (link)
  4. "RHODRI MAWR (bu farw 877), brenin Gwynedd, Powys, a Deheubarth | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2020-09-28.
  5. Anhysbys. The Chronicle of the SaxonsorBrut y Saeson.
  6. Cydymaith i lenyddiaeth Cymru. Stephens, Meic, 1938- (arg. Arg. newydd). Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. 1997. tt. 86–7. ISBN 0-7083-1382-5. OCLC 38068896.CS1 maint: others (link)

Llyfryddiaeth

golygu
  • John Edward Lloyd, A history of Wales: from the earliest times to the Edwardian conquest(Longmans, Green & Co, 1911)
  • Ceinwen H. Thomas, "Rhodri Mawr", yn Ein Tywysogion (1954)
Rhagflaenydd:
Merfyn Frych ap Gwriad
Brenin Gwynedd
844878
Olynydd:
Anarawd ap Rhodri
Rhagflaenydd:
Cyngen ap Cadell
Brenin Powys
855878
Olynydd:
Merfyn ap Rhodri
Rhagflaenydd:
Gwgon
Brenin Seisyllwg
872878
Olynydd:
Cadell ap Rhodri
  NODES