Rhyfel Cartref Lloegr
Ymladdwyd Rhyfel Cartref Lloegr rhwng 1642 a 1651. Mewn gwirionedd roedd yn dri rhyfel cartref: Rhyfel Cartref Cyntaf Lloegr (1642–6), Ail Ryfel Cartref Lloegr (1648–9) a Thrydydd Rhyfel Cartref Lloegr Rhyfel (1650–51). Roedd y rhyfeloedd yn Lloegr yn rhan o gyfres o ryfeloedd a elwir yn Rhyfeloedd y Tair Teyrnas, yn cynnwys Rhyfel Cartref yr Alban (1644–1645) a Rhyfel Cyngheiriaid Iwerddon (1642–9).
Enghraifft o'r canlynol | rhyfel |
---|---|
Rhan o | Rhyfeloedd y Tair Teyrnas |
Dechreuwyd | 1642 |
Daeth i ben | 3 Medi 1651 |
Lleoliad | Teyrnas Lloegr |
Yn cynnwys | Rhyfel Cartref Cyntaf Lloegr, Trial of Charles I, King of England, Scotland and Ireland |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Roedd Cymru wedi ei hymgorffori yn groes i'w hewyllys yn nheyrnas Lloegr ar y pryd, o ganlyniad i Deddfau'r Cyfreithiau yng Nghymru 1535 a 1542 (a elwid ers talwm yn 'Ddeddfau Uno') ac ystyrir yr ymladd yng Nghymru yn rhan o Ryfel Cartref Lloegr.
Roedd y rhyfeloedd yn ganlyniad anghydfod rhwng y brenin Siarl I o Loegr a'r Alban (neu Charles) a'i ddeiliaid, ynghylch crefydd ac ynghylch hawliau'r brenin. Ymladdwyd y rhyfel rhwng plaid y brenin a phlaid y Senedd. Y canlyniad oedd buddugoliaeth y blaid Seneddol yn Lloegr, dan Oliver Cromwell yn y pen draw, dros y Brenhinwyr yn Lloegr, yna yn yr Alban ac Iwerddon hefyd.
Rhyfel Cartref Cyntaf Lloegr
golyguYmladdwyd hwn rhwng 1642 a 1646, rhwng plaid y brenin a phlaid y Senedd. Y prif frwydrau oedd Brwydr Edgehill, Brwydr Marston Moor a Brwydr Naseby. Wedi i'w fyddin gael ei dinistrio gan y Seneddwyr yn Naseby a Langport, ffôdd y brenin at y fyddin Albanaidd yn Southwell, Swydd Nottingham ym mis Mai 1646, a daeth y Rhyfel Catref Cyntaf i ben.
Ail Ryfel Cartref Lloegr
golygu- Prif: Ail Ryfel Cartref Lloegr
Ymladdwyd yr ail ryfel cartref yn 1648–1649, eto rhwng plaid y brenin a phlaid y Senedd. Dechreuodd hwn yng Nghymru yng ngwanwyn 1648, pan newidiodd milwyr y Senedd, oedd heb gael eu talu, i gefnogi'r brenin. Gorchfygwyd hwy gan y Cyrnol Thomas Horton ym Mrwydr San Ffagan (8 Mai), ac ildiodd yr arweinwyr i Oliver Cromwell ar 11 Gorffennaf ar ôl gwarchae Penfro. Dienyddiwyd Siarl I ar 30 Ionawr 1649.
Trydydd Rhyfel Cartref Lloegr
golyguYmladdwyd y trydydd rhyfel cartref rhwng 1649 a 1651, rhwng cefnogwyr Siarl II o Loegr a'r Alban a'r Senedd. Diweddodd gyda Brwydr Caerwrangon yn 1651, pan fu'r Senedd yn fuddugol.
Y Rhyfel Cartref yng Nghymru
golyguRoedd boneddigion Cymry ar y dechrau'n cefnogi plaid y Brenin, er bod ambell eithriad megis John Jones, Maesygarnedd, brawd-yng-nghyfraith Oliver Cromwell, a'r llenor Morgan Llwyd. Ni fu unrhyw frwydrau ar raddfa fawr ar dir Cymru yn ystod y Rhyfel Cartref Cyntaf, ond roedd cyfran helaeth o fyddin y brenin yn rhai o'r brwydrau yn Lloegr yn Gymry; gelwid Cymru yn "fagwrfa gwŷr traed y brenin".
Oherwydd fod arfordir Cymru mor agos i'r Iwerddon, roedd y boneddigion Cymreig yn fwy na pharod i dalu'r dreth longau er mwyn cryfhau'r llynges. Roeddynt hefyd yn gefnogol i ymdrechion yr Archesgob Laud i ddyrchafu rhwysg Eglwys Loegr. Ond erbyn diwedd y 1630au newidiodd hyn:
- roedd yr Alban yn gwrthwynebu polisiau Siarl
- credid bod y brenin yn codi byddin o Babyddion yn Iwerddon ac
- yng Nghymru cododd yr amheuaeth ynghylch bwriadau pendefigion Paybyddol megis Somerset.
Yn Nhachwedd 1640 trwy gyfrwng y Senedd Hir, chwalwyd y fiwrocraiaeth frenhinol a diddymwyd Llys yr Uchel Gomisiwn (sef prif arf Laud) ac ymosodwyd ar yr esgobion a'u Llyfr Gweddi Gyffredin. Yn ystod cyfnod y Llys Hir, yr unig Gymro a oedd yn deyrngar i'r brenin oedd Herbert Price (fl. 1615 - 1663), pendefig a noddwr llenyddiaeth o'r hen Sir Frycheiniog ac a gynrychiolai Aberhonddu. Er hyn, pan ddechreuodd y rhyfel yn Awst 1642, dim ond 5 o ASau o Gymru oedd yn driw i'r Senedd, a dim ond siroedd Penfro (oherwydd masnach) a Wrecsam (oherwydd pwer Thomas Myddelton). Erbyn 1646 roedd Castell Rhaglan wedi cwympo ac roedd lluoedd y Senedd yn rheoli'r cyfan o Dde Cymru. Ymestynodd grym Myddelton dros y Gogledd ac erbyn Mawrth 1647 ildiwyd Castell Harlech i'r Seneddwyr a daeth y Rhyfel Cartref Cyntaf i ben
Yn Sir Benfro y taniwyd gwreichionen gyntaf yr Ail Ryfel Cartref, yn dilyn codi trethi trwm, gan y Seneddwyr a chyda marwolaeth Essex, gwanhawyd dylanwad y Seneddwyr yng Nghymru. Datganodd John Poyer (llywiawdwr Castell Penfro) a Rice Powell (llywiawdwr Castell Dinbych-y-pysgod) eu cefnogaeth i'r brenin. Martsiodd y ddau i Gaerdydd ac ymuno gyda Laugharne (a oedd wedi newid ei got). Ar 8 Mai 1648 trechwyd Laugharne a'i griw brenhinol ym mrwydr bwysicaf y Rhyfel cartref yng Nghymru: Brwydr Sain Ffagan. Ysgubodd Cromwell drwy Dde Cymru ac i fyny i'r Gogledd; ym Môn yr ymladdwyd y frwydr olaf.
Arwyddwyd warant marwolaeth y brenin gan rai Cymry:
- John Jones (Maesygarnedd) (1597 – 17 Hydref 1660)
- Thomas Wogan, aelod Bwrdeistrefi Sir Aberteifi.