Rhyfel yn erbyn Terfysgaeth

Ymgyrch gan lywodraeth Unol Daleithiau America a rhai o'i gynghreiriaid â'r nod o derfynu terfysgaeth ryngwladol yw'r Rhyfel yn erbyn Terfysgaeth (neu weithiau'r Rhyfel ar Derfysgaeth – yn swyddogol, "Global War on Terrorism"). Gall gynnwys ymyrraeth filwrol, gwleidyddol neu gyfreithiol.

Mae yn ymgyrch ddadleuol iawn gan ei fod yn ôl llawer yn cyfiawnhau taro'n gyntaf yn erbyn gwlad arall, yn gweithredu yn erbyn hawliau dynol ac yn erbyn cyfraith ryngwladol.

Lansiwyd y Rhyfel yn erbyn Terfysgaeth fel ymateb i'r ymosodiadau ar Ganolfan Masnach y Byd yn Efrog Newydd a'r Pentagon yn Washington, DC ar 11 Medi 2001.

Nid yw'r Rhyfel yn erbyn Terfysgaeth yn ryfel draddodiadol – yn lle gwledydd â ffiniau pendant yn ymladd yn erbyn ei gilydd, mae rhan fwyaf o'r rhyfel yn cael ei ymladd gan ddefnyddio lluoedd arfog arbennig, gwybodaeth, gwaith heddlu a diplomyddiaeth.

Dechreuodd y Rhyfel yn erbyn Terfysgaeth gyda goresgyniad Affganistan yn Hydref 2001. Ar ôl dadl ryngwladol ynglŷn ag arfau dinistriol[1], meddiannodd yr Unol Daleithiau, y Deyrnas Unedig ac eraill Irac yn 2003. Mae nifer yn credu mai Syria[2][3] ac Iran ymysg gwledydd nesaf i gael eu targedu.

Cyfeiriadau

golygu

Dolenni allanol

golygu
  NODES