Sgiffl

Cerddoriaeth werin-pop ddaeth yn boblogaidd iawn ym Mhrydain yn ail hanner yr 1950au yn rannol gan nad oedd angen offerynnau cerdd drud

Math o gerddoriaeth werin neu gerddoriaeth pop cynnar yw sgiffl (gair benthyg o'r Saesneg: skiffle). Mae wedi ei ddylanwadu gan genres fel canu gwlad, jazz a'r felan. Mae'r cerddorion yn defnyddio offerynnau fel y gitâr acwstig, y harmonica neu'r banjo, ac offerynnau wedi'u gwneud yn fyrfyfyr neu gartref fel cribau, potiau, bwrdd golchi, dalennau o bapur, ac ati.

Sgiffl
Enghraifft o'r canlynolgenre gerddorol Edit this on Wikidata
Mathcontemporary folk music Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1920 Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.bourbonskiffle.de Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
 
Grŵp sgiffl Gus Cannon's Jug Stompers, c. 1928
 
Y 'Firs Estate Skiffle Group' (1957), grŵp nodweddiadol o'r "chiw sgiffl" bu drwy Brydain rhwng 1955-57

Mae gwreiddiau sgiffl yn aneglur ond credir yn gyffredinol eu bod yn gorwedd yn niwylliant cerddorol Affricanaidd-Americanaidd ar ddechrau'r 20g. Dywedir yn aml fod sgiffl wedi datblygu o jazz New Orleans, ond mae dadl ynghylch yr honiad hwn.[1] Roedd 'bandiau jwg' (jug band - bandiau yn defnyddio offerynnau cerdd syml, gan gynnwys chwythu alaw i jwg wydr neu glai) byrfyfyr yn chwarae'r felan a jazz yn gyffredin ar draws Deheudir yr Unol Daleithiau yn negawdau cynnar yr 20g.[2] Roeddent yn defnyddio offerynnau megis yr ystyllen olchi (bwrdd golchi), jygiau, bas twb golchi, ffidil bocs sigar, llif cerddorol a chasŵau crib a phapur, yn ogystal ag offerynnau mwy confensiynol, fel gitâr acwstig a banjo.[3]

Nid yw tarddiad y gair Saesneg "skiffle" yn hysbys. Fodd bynnag, yn nhafodiaith gorllewin Lloegr mae gwneud skiffle, sy'n golygu "gwneud llanast" o unrhyw fusnes, wedi'i ardystio o 1873.[4] Ar ddechrau'r 20g roedd y term 'skiffle' yn un o lawer o ymadroddion bratiaith ar gyfer 'parti rhent', digwyddiad cymdeithasol gyda thâl bychan wedi'i gynllunio i dalu rhent ar dŷ.[5] Fe'i cofnodwyd gyntaf yn Chicago yn y 1920au ac mae'n bosibl iddo gael ei ddwyn yno fel rhan o'r ymfudiad Affricanaidd-Americanaidd i ddinasoedd diwydiannol gogledd yr Unol Daleithiau.[1] Defnyddiwyd y term am y tro cyntaf ym 1925 yn enw Jimmy O'Bryant and his Chicago Skifflers. Gan amlaf fe'i defnyddiwyd i ddisgrifio recordiau canu gwlad, a oedd yn cynnwys y cyfansoddiadau "Hometown Skiffle" (1929) a "Skiffle Blues" (1946) gan Dan Burley a'i fand, y Skiffle Boys. Fe'i defnyddiwyd gan Ma Rainey (1886-1939) i ddisgrifio ei repertoire i gynulleidfaoedd gwledig. Diflannodd y term o gerddoriaeth Americanaidd yn y 1940au.

Daeth Skiffle yn hynod boblogaidd yn y Deyrnas Unedig ac yng Ngymru'n, ar ddiwedd y 1950au pan gafodd Lonnie Donegan hit fyd-eang gyda'r gân Rock Island Line. Grwpiau adnabyddus eraill o’r Deyrnas Unedig oedd y Gin Mill Skiffle Group, a'r Quarrymen (y Beatles yn ddiweddarach). Agorodd poblogrwydd y gerddoriaeth syml hon lygaid pobl ifanc o Brydain a sylweddolodd y gallent chwarae cerddoriaeth a chael llwyddiannau gwerthu. Y canlyniad, flynyddoedd yn ddiweddarach, oedd y ffrwydrad cerddorol masnachol o'r enw "The British Invasion".[6]

Cymru a'r Sgiffl

golygu
 
Clawr albwm 'Goreuon Hogia Llandegai' (1992) y grŵp sgiffl Cymraeg gyntaf ac mwyaf adnabyddus a sefydlwyd yn 1957 ond bu'n canu hyd nes yr 1990au

Bu i'r sgiffl gyrraedd Cymru ac roedd natur rhad di-drydan yr offerynnau yn benthyg ei hun yn dda i gymdeithas Gymraeg yr 1950au a 60au lle nad oedd, efallai, gymaint o offerynnau trydan mwy soffistigedig ar gael na darpariaeth ar eu cyfer. Gwnaeth canu sgiffl lawer i bontio canu gwerin a phoblogaidd (ond ceidwadol) Cymraeg gyda dechreuad canu pop Cymraeg a'r Sîn Roc Gymraeg.

Ymhlith y grwpiau sgiffl Cymraeg a bu fwyaf llwyddiannus oedd Hogia Bryngwran o Ynys Môn a ffurfiwyd tua 1955-56, ac Hogia Llandegai o ardal Bangor a sefydlwyd yn 1957. Gwelwyd dylanwad sgiffl hefyd ar grwpiau fel y Bara Menyn o ddiwedd y 1960au.

Byddai grwpiau sgiffl Cymraeg fel Hogia Llandegai a rhai di-gymraeg o Gymru fel y Dewi Peter's Skiffle Group o ardal Merthyr Tudful, yn ymddangos ar raglenni cerddoriaeth Cymraeg y BBC yn yr 1960au fel Noson Lawen a Hob y Deri Dando.[7] Er mai Cymry Cymraeg gellid amcan oedd aelodau nifer o'r bandiau, yn Saesneg megis 'The Streamline Gamblers' o Aberystwyth a'r caneuon gellid tybied gan ddilyn ffasiwn yr oes.[8]

Cafwyd band adnabyddus 'Railroad Bill' o Gaerdydd eu sefydlu yn 1986 fel rhan o adfywiad sgiffl. Galwent eu hunain, "the band which time forgot" a byddent yn canu cyngherddau ar draws Prydain a thramor.[9]

Ymddengys i'r chwiw dros sgiffl bara rhwng 1955-57 gyda'r BBC yn gwneud llawer i'r boblogrwydd a'i ledaeniad.[10]

Gwahardd ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol

golygu

Yn Eisteddfod Genedlaethol Llangefni 1957 gwrthododd yr Archdderwydd William Morris (Moi Plas) rhag i ganu sgiffl fod ar Faes yr Eisteddfod gan ddweud nad cerddoriaeth oedd sgiffl ond "sbwriel" fel atgofiau Neville Evans, un o aelodau Criw Sgiffl Llandegau (ddaeth, maes o lawn, yn Hogia Llandegai) yn llyfr Y Felin Bop.[10]

Gweler hefyd

golygu

Dolenni allanol

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 M. Brocken, The British folk revival, 1944–2002 (Aldershot: Ashgate, 2003), pp. 69–80.
  2. L. R. Broer and J. D. Walther, Dancing Fools and Weary Blues: the Great Escape of the Twenties (Popular Press, 1990), p. 149.
  3. J. R. Brown., A Concise History of Jazz (Mel Bay Publications, 2004), p. 142.
  4. A Glossary of Provincial Words & Phrases in Use in Somersetshire (Longmans, London: 1873), 33.
  5. J. Simpson and E. Weiner, eds, The Oxford English Dictionary (Oxford: Oxford University Press, 2nd edn., 1989), c.f. "skiffle".
  6. "Skiffle in Britain". Acoustic Music. 2011. Cyrchwyd 3 Ebrill 2024.
  7. "Bandiau Sgiffl ym Merthyr Tudful" (PDF). Casgliad y Werin Cymru. Cyrchwyd 3 Ebrill 2024.
  8. "The Streamline Gamblers', group sgiffl, Aberystwyth, 1950au". Casgliad y Werin Cymru. Cyrchwyd 3 Ebrill 2024.
  9. "Cardiff's busking royalty Railroad Bill celebrate their 25th anniversary". Wales Online. 5 Hydref 2011.
  10. 10.0 10.1 Hill, Sarah (2007). "BleRwytiRhwng? The Place of Welsh Pop Music". Routledge ar Google Books. Cyrchwyd 3 Ebrill 2024.
  Eginyn erthygl sydd uchod am gerddoriaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
  NODES