Shirley Williams
Roedd Shirley Williams (Shirley Vivian Teresa Brittain Williams, Barwnes Williams o Crosby (ganwyd Catlin; 27 Gorffennaf 1930 – 12 Ebrill 2021)[1] yn gwleidydd ac ysgolhaig Seisnig. Roedd hi'n aelod seneddol o'r Blaid Lafur rhwng 1964 a 1979, ac yn aelod y cabinet yn y llywodraeth Harold Wilson ac wedyn James Callaghan. Roedd hi'n aelod o'r "Gang of Four" a adawodd y Blaid Lafur ym 1981 i ffurfio’r Y Democratiaid Cymdeithasol (Saesneg: SDP). Roedd hi'n arlywydd yr SDP rhwng 1982 a 1987.
Shirley Williams | |
---|---|
Ganwyd | Shirley Vivian Teresa Brittain Catlin 27 Gorffennaf 1930 Llundain |
Bu farw | 11 Ebrill 2021 Llundain |
Dinasyddiaeth | Lloegr |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Ysgrifennydd Gwladol dros Addysg, Tâl-feistr Cyffredinol, Secretary of State for Prices and Consumer Protection, Aelod o Dŷ'r Arglwyddi, Ysgrifennydd Cartref yr Wrthblaid, Shadow Secretary of State for Health and Social Care, Is-Ysgrifennydd Gwladol dros y Swyddfa Cartref, aelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig, Aelod o 48fed Llywodraeth y DU, Aelod o 47fed Llywodraeth y DU, Aelod o 46ed Llywodraeth y DU, Aelod o 45ed Llywodraeth y DU, Aelod o 44ydd Llywodraeth y DU, Aelod o 43ydd Llywodraeth y DU |
Cyflogwr | |
Plaid Wleidyddol | y Democratiaid Rhyddfrydol, y Blaid Lafur, Y Democratiaid Cymdeithasol |
Tad | George Catlin |
Mam | Vera Brittain |
Priod | Bernard Williams, Richard Neustadt |
Plant | Rebecca Williams |
Gwobr/au | Cydymaith Anrhydeddus, Ysgoloriaethau Fulbright |
Bu farw Williams yn Llundain, yn 90 oed. Dwedodd Tony Blair: "Shirley Williams oedd un o ddemocratiaid cymdeithasol mwyaf y ganrif ddiwethaf".[2]
Bywyd cynnar
golyguCafodd Williams ei geni yn Llundain, yn ferch o'r awdures Vera Brittain a'i gŵr, Syr George Catlin. Cafodd ei addysg yng Ngholeg Somerville, Rhydychen. Bu'n byw yn yr Unol Daleithiau am dair blynedd, yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Priododd â Bernard Williams ym 1955. Roedd ganddyn nhw un ferch, Rebecca.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Langdon, Julia (12 Ebrill 2021). "Lady Williams of Crosby obituary". The Guardian (yn Saesneg). Cyrchwyd 12 Ebrill 2021.
- ↑ "Shirley Williams wedi marw yn 90 oed". Golwg360. 12 Ebrill 2021. Cyrchwyd 13 Ebrill 2021.