Sidydd
Mae'r Sidydd (Saesneg: Zodiac; Groeg: ζῳδιακός, zōidiakos) yn gylch o 12 rhaniad 30° ar hyd yr ecliptig, sef y llwybr ymddangosiadol y mae'r haul yn ei ddilyn dros gyfnod o flwyddyn. Mae llwybr y lloer a'r planedau'n agos iawn i'r eliptig sy'n ymestyn 8-9° i'r gogledd neu'r de ac a fesurir mewn lledred seryddol.
Enghraifft o'r canlynol | set |
---|---|
Math | Ptolemaic system |
Yn cynnwys | Yr Hwrdd, Y Tarw, Y Gefeilliaid, Y Cranc, Y Llew, Y Forwyn, Y Fantol, Y Sgorpion, Y Saethydd, Yr Afr, Y Dyfrwr, Y Pysgod, Ophiuchus |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Gelwir y rhaniadau hyn yn ddeuddeng "Arwydd". Mae arwyddion y Sidydd yn fwy hysbys mewn cyd-destun sêr-ddewiniol na seryddol, bellach.
Arwyddion y Sidydd
golyguRhennir y Sidydd yn ddeuddeg rhan (un i bob mis o'r flwyddyn), a rhoddir iddynt enw'r cytser agosaf. Mae'r tabl hwn yn dangos arwyddion y Sidydd gyda'r dyddiadau pan fydd yr haul yn mynd drwyddynt.
Cytser | Arwydd | Dyddiadau presenoldeb yr haul… | |
---|---|---|---|
…yn yr arwydd | …yn y cytser (yn 2000) | ||
Yr Hwrdd | 21 Mawrth i 20 Ebrill | 20 Ebrill i 13 Mai | |
Y Tarw | 21 Ebrill i 21 Mai | 14 Mai i 19 Mehefin | |
Y Gefeilliaid | 22 Mai i 21 Mehefin | 20 Mehefin i 20 Gorffennaf | |
Y Cranc | 22 Mehefin i 22 Gorffennaf | 21 Gorffennaf i 9 Awst | |
Y Llew | 23 Gorffennaf i 22 Awst | 10 Awst i 15 Medi | |
Y Forwyn | 23 Awst i 22 Medi | 16 Medi i 30 Hydref | |
Y Fantol | 23 Medi i 22 Hydref | 31 Hydref i 22 Tachwedd | |
Y Sgorpion | 23 Hydref i 22 Tachwedd | 23 Tachwedd i 29 Tachwedd | |
Ophiuchus | (nid yw’n un o arwyddion y Sidydd) | 30 Tachwedd i 17 Rhagfyr | |
Y Saethydd | 23 Tachwedd i 21 Rhagfyr | 18 Rhagfyr i 18 Ionawr | |
Yr Afr | 22 Rhagfyr i 20 Ionawr | 19 Ionawr i 15 Chwefror | |
Y Dyfrwr | 21 Ionawr i 18 Chwefror | 16 Chwefror i 11 Mawrth | |
Y Pysgod | 19 Chwefror i 20 Mawrth | 12 Mawrth i 18 Ebrill |
Llawysgrif Gutun Owain
golyguMae rhan gyntaf Llawysgrif Gutun Owain (gweler y ddelwedd uchod) yn cynnwys cymysgedd o destunau'n ymwneud ag astroleg a meddygaeth. Roedd y cyfuniad yma yn gyffredin mewn llawysgrifau ledled Ewrop erbyn y 15g ac roedd cysylltiad agos rhwng amser y flwyddyn, tymhorau'r lleuad a ffactorau astrolegol eraill ac iechyd a medygaeth gan y byddent yn effeithio ar "hiwmorau"'r corff. Roedd y gred bod y corff dynol yn cynnwys pedwar "hiwmor" yn bodoli ers cyfnod y Groegiaid. Byddai gwahanol ffactorau'n effeithio ar yr hiwmorau hyn yn achosi afiechyd.
-
Olwyn y Sidydd: Mosäig o synagog Beit Alpha yn Israel, yn cynrychioli arwyddion y Sidydd
-
Wrcles
-
Y Sgorpiwn
-
Y Forwyn
-
Y Gefeilliaid
-
Y Llew
-
Y Tarw
-
Andromeda
-
Aries
-
Cassiopeia
-
Cysawdau hemissfer y De