Gwin cadarn yw sieri (Sbaeneg: Jerez neu Xeres, Saesneg: sherry) wedi'i wneud o rawnwin gwyn sy'n cael eu tyfu ger dinas Jerez de la Frontera yn Andalusia, Sbaen. Cynhyrchir sieri mewn amrywiaeth o arddulliau a wneir yn bennaf o rawnwin Palomino, yn amrywio o fersiynau ysgafn tebyg i winoedd gwin y bwrdd, fel Manzanilla a Fino, i fersiynau tywyllach a thrymach y caniatawyd iddynt ocsideiddio wrth iddynt heneiddio mewn casgen, megis Amontillado ac Oloroso. Cynhyrchir hefyd gwin melys o rawnwin Pedro Ximenez neu Moscatel, ac weithiau caiff eu cymysgu â sieri Palomino.

Sieri Amontillado
Seler sieri

Mae'r gair "sieri" yn tarddu o Gymreigio'r gair Saesneg "Sherry"; sydd ei hun yn tarddu o Seisnigeiddio Xeres neu Jerez. Roedd sieri arfer cael ei alw'n sack. Yn Ewrop, mae gan sieri 'statws enw tarddiad gwarchodedig', ac o dan gyfraith Sbaen, rhaid yn gyfreithiol i holl win sydd wedi'i labelu'n "sieri" ddod o'r Driongl Sieri, ardal yn nhalaith Cádiz rhwng Jerez de la Frontera, Sanlúcar de Barrameda, ac El Puerto de Santa María.[1] Yn 1933 denominación de origen Jerez oedd yr un cyntaf i'w adnabod o dan gyfraith Sbaen, a elwir y DO Jerez-Xeres-Sherry.

Ar ôl gorffen eplesu caiff y gwinoedd sylfaen eu cyfnerthu â gwirod grawnwin er mwyn cynyddu eu cynnwys alcohol terfynol.[2] Mae gwinoedd megis Fino a Manzanilla yn cael eu cyfnerthu nes eu bod yn cyrraedd cyfanswm cynnwys alcohol o 15.5%. Wrth iddynt heneiddio mewn casgen, maent yn datblygu haen o fflor - twf tebyg i furum sy'n helpu amddiffyn y gwin rhag gormod o ocsideiddio. Mae gwinoedd megis Oloroso yn cael cyfnerthu nes eu bod yn cyrraedd cyfanswm o leiaf 17%. Nid ydynt yn datblygu fflor ac felly maent yn ocsideiddio ychydig wrth iddynt heneiddio, yn rhoi lliw tywyllach iddynt. Gan fod y cyfnerthu'n digwydd ar ôl yr eplesu, mae'r mwyafrif o sieri yn sych i ddechrau, gydag unrhyw felyster yn cael ei ychwanegu'n ddiweddarach. Mewn cyferbyniad, mae gwinoedd port cael eu cyfnerthu hanner ffordd trwy'r eplesiad, sy'n atal y broses fel nad yw'r holl siwgr yn cael ei droi'n alcohol.

Ystyrir sieri gan nifer o awduron gwin[3] fel "heb ei werthfawrogi"[4] ac yn "drysor gwin wedi'i esgeuluso".[5]

Mae Jerez wedi bod yn ganolfan tyfu gwinwydd ers i win cael ei gyflwyno i Sbaen gan y Ffeniciaid yn 1100 CC. Parhaodd yr arfer gan y Rhufeiniaid pan reolon nhw Iberia tua 200 CC. Pan goncrodd y Mwriaid y rhanbarth yn 711 cyflwynon nhw ddistyllu, a arweiniodd at ddatblygu brandi a gwin cadarn.

Yn ystod cyfnod y Mwriaid, galwyd y dref yn Sherish (trawslythreniad o'r Arabeg شريش). Yn draddodiadol, cynhyrchir gwinoedd tebyg o ran arddull i sieri yn ninas Shiraz yng nghanol de-orllewin Iran, ond credir ei fod yn annhebygol bod yr enw yn deillio o'r fan honno.[6][7] Parhaodd yr ardal cynhyrchu gwin trwy bum canrif o reolaeth Fwslimaidd. Yn 966, gorchmynnodd Al-Hakam II, ail Califf Córdoba, i ddinistrio'r gwinllannoedd, ond apeliodd trigolion Jerez yn erbyn hyn ar y sail bod y gwinllannoedd hefyd yn cynhyrchu rhesins i fwydo milwyr yr ymerodraeth, ac arbedodd y Califf ddau draean y gwinllannoedd.

Ym 1264 cymerodd Alfonso X o Castile y ddinas. O'r pwynt hwn ymlaen, cynyddodd cynhyrchiad sieri yn sylweddol a'i allforio ledled Ewrop. Erbyn diwedd yr 16g, roedd gan sieri enw da yn Ewrop fel gwin gorau'r byd.

Daeth Christopher Columbus â sieri ar ei fordaith i'r Byd Newydd, a phan baratôdd Ferdinand Magellan i hwylio ledled y byd ym 1519, gwariodd fwy ar sieri nag ar arfau. Daeth sieri yn boblogaidd iawn ym Mhrydain Fawr, yn enwedig ar ôl i Francis Drake ysbeilio Cadiz ym 1587. Ymhlith yr ysbail a ddaeth â Drake yn ôl i Brydain ar ôl dinistrio fflyd yr Armada, oedd 2,900 casgen o sieri.[8] Helpodd hyn i boblogeiddio sieri ym Mhrydain.[9] Oherwydd bod sieri yn allforyn gwin pwysig i'r Deyrnas Unedig, datblygodd nifer o gwmnïau ac arddulliau Saesneg. Sefydlwyd nifer o'r selerau yn Jerez gan deuluoedd Prydeinig.

Ym 1894 cafodd rhanbarth Jerez ei difrodi gan y pryfed phylloxera. Tra cafodd y gwinllannoedd mawr eu hail-blannu â gwinwydd gwrthsafol, nid oedd y mwyafrif o gynhyrchwyr llai medru ymladd y pla, a rhoddwyd y gorau i'w gwinllannoedd yn llwyr.[10]

Mathau

golygu
 
Gwahanol sierïau: o'r chwith i'r dde: Manzanilla, Fino, Amontillado, Palo Cortado, ac Oloroso.
  • Fino yw'r amrywiaeth traddodiadol sieri sychaf a gwelwaf. Mae'r gwin wedi ei heneiddio mewn casgenni o dan gap o furum fflor i atal cysylltiad â'r awyr.
  • Manzanilla yw amrywiaeth arbennig o ysgafn o sieri fino sydd wedi'i wneud o amgylch porthladd Sanlúcar de Barrameda.
  • Manzanilla Pasada yw manzanilla sydd wedi heneiddio'n hirach, neu sydd wedi'i ocsidio'n rhannol, gan roi blas cyfoethocach a chneuog.
  • Amontillado yw amrywiaeth o sieri sydd wedi heneiddio'n gyntaf o dan fflor, ac yna'n agored i ocsigen, gan gynhyrchu sieri sy'n dywyllach na fino ond yn ysgafnach nag oloroso. Yn naturiol mae'n sych, weithiau fe'u gwerthir wedi'u felysu'n ysgafn, ond yna ni ellir labelu'r rhain bellach fel amontillado.[11]
  • Oloroso yw amrywiaeth o sieri sydd wedi heneiddio'n ocsideiddiol am amser hirach na fino neu amontillado, sy'n cynhyrchu gwin tywyllach a chyfoethocach. Mae ganddynt lefelau alcohol rhwng 18 ac 20%, felly oloroso yw'r sierïau mwyaf alcoholig.[12] Fel amontillado maent yn naturiol yn sych, fe'u gwerthir yn aml hefyd mewn fersiynau wedi'u melysu o'r enw sieri Hufen (a gynhyrchir yn gyntaf yn yr 1860au trwy gyfuno gwahanol sierïau, gan gynnwys oloroso a pedro ximénez).
  • Palo Cortado yw amrywiaeth o sieri sydd i ddechrau wedi heneiddio fel amontillado, am dair neu bedair blynedd fel arfer, ond sydd wedyn yn datblygu cymeriad yn agosach at oloroso. Mae hyn naill ai'n digwydd ar ddamwain pan fydd y fflor yn marw, neu caiff y fflor ei ladd yn bwrpasol.
  • Jerez Dulce (Sierïau Melys) yw sierïau sydd naill ai wedi'u creu trwy eplesu grawnwin pedro ximénez neu moscatel sych, sy'n cynhyrchu gwin brown tywyll neu ddu hynod felys, neu trwy gyfuno gwinoedd melysach gydag amrywiaeth sychach.

Y dosbarthiad yn ôl melyster yw:

Math o Win Cadarn Alcohol% ABV Cynnwys siwgr

(gram y litr)

Fino 15–17 0–5
Manzanilla 15–17 0–5
Amontillado 16–17 0–5
Palo Cortado 17–22 0–5
Oloroso 17–22 0–5
Sych 15–22 5–45
Hufen Gwelw 15.5–22 45–115
Canolig 15–22 5–115
Hufen 15.5–22 115–140
Dulce / Melys 15–22 160+
Moscatel 15–22 160+
Pedro Ximénez 15–22 212+

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Quality Control - Vintage Direct". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-09-10. Cyrchwyd 10 Ionawr 2015.
  2. "CONSEJO REGULADOR DE LAS DD.O. JEREZ, MANZANILLA Y VINAGRE DE JEREZ". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 10 Ionawr 2015. Cyrchwyd 10 Ionawr 2015.
  3. Eric Asimov, "For Overlooked Sherries, Some Respect" Archifwyd 2017-07-01 yn y Peiriant Wayback, The New York Times, 9 Gorffennaf 2008.
  4. Karen MacNeil (2001), The Wine Bible (Workman Publishing, ISBN 978-1-56305-434-1), 537: "the world's most misunderstood and underappreciated wine".
  5. Jancis Robinson, Sherry Archifwyd 2011-05-14 yn y Peiriant Wayback (5 Medi 2008): "The world's most neglected wine treasure".
  6. Maclean, Fitzroy. Eastern Approaches. (1949). Reprint: The Reprint Society Ltd., London, 1951, p. 215
  7. William Bayne Fisher (1 Hydref 1968). The Cambridge History of Iran. Cambridge University Press. t. 25. ISBN 978-0-521-06935-9. Cyrchwyd 25 Awst 2011.
  8. Johnson, Hugh (2005). The story of wine (arg. New illustrated). London: Octopus Publishing Group. ISBN 978-1-84000-972-9.
  9. Juan P. Simó (28 Tachwedd 2010). "'Me habré bebido El Majuelo'". diariodejerez.es (yn Sbaeneg). Cyrchwyd 25 Awst 2011..
  10. Unwin, Tim (1991). Wine and the vine: an historical geography of viticulture and the wine trade (arg. 1st). London: Routledge. t. 297. ISBN 978-0-415-03120-2.
  11. "Boletín Oficial de la Junta de Andalucía (BOJA)" (PDF). 12 Ebrill 2012. t. 52.
  12. T. Stevenson The Sotheby's Wine Encyclopedia pg 325 Dorling Kindersley 2005 ISBN 978-0-7566-1324-2
  NODES