Silwraidd
Cyfnod Silwraidd 443.7–416 miliwn o flynyddoedd yn ôl | |
Cyfartaledd O2 yn yr atmosffêr | ca. 14 Cyfaint %[1] (70 % o lefel a geir heddiw) |
Cyfartaledd CO2 yn yr atmosffêr | ca. 4500 rhan / miliwn[2] (16 wedi'i luosi gyda'r lefel fodern (cyn-ddiwydiannol)) |
Cyfartaledd tymheredd yr wyneb | ca. 17 °C[3] (3 °C uwch na'r lefel heddiw) |
Lefel y môr (yn uwch na heddiw) | Tua 180m[4] |
Cyfnod daearegol a ddechreuoedd tua 408.5 miliwn o flynyddoedd yn ôl ac y daeth i ben tua 443.5 miliwn o flynyddoedd yn ôl yw'r Cyfnod Silwraidd. Roedd yn dilyn y Cyfnod Ordofigaidd a daeth y Cyfnod Defonaidd ar ôl y Cyfnod Silwraidd. Mae'n gyfnod a welodd ddifodiant 60% o anifeiliaid a phlanhigion môr.
Disgrifiodd y daearegydd Syr Roderick Murchison y Cyfnod Silwraidd am y tro cyntaf pan gyhoeddodd y llyfr The Silurian System ym 1839, ar ôl gweld creigiau yn Nhraethau Marloes, De Cymru. Enwyd y Cyfnod ar ôl y Silwriaid, llwyth Celtaidd a oedd yn byw yn yr ardal.
Yn ystod y Cyfnod Silwraidd roedd Uwchgyfandir Gondwana yn dal i fod yn y de, ond ffurfiodd y cyfandiroedd eraill yr Uwchgyfandir mawr Laurasia.
Cwrelau a brachiopodau yw'r ffosilau a geir mewn creigiau o'r Cyfnod Silwraidd.
Bywyd
golyguUn o brif nodweddion y cyfnod hwn yw datblygiad esgyrn mewn pysgod. Yn ail, gwelwyd bywyd yn dod i'r lan - ar y tir - mewn ffurfiau fel mwsogl, planhigion fasgwlaidd yn tyfu ar lan llynnoedd nentydd ac arfordiroedd; dyma'r cyfnod hefyd pan welwyd arthropodau ar y tir. Fodd bynnag, mae'n rhaid aros tan y cyfnod Defonaidd cyn gweld esblygiad pellach ar y tir, a'r amrywiaeth enfawr a ddaeth wedi'r cyfnod Silwraidd.
Epocau
golyguCeir pedair israniad o fewn y cyfnod Silwraidd, a elwir yn 'epocau':
- Epoc Llanymddyfri - ceir 3 israniad pellach o fewn y grŵp a elwir yn Telychian, Aeronaidd a Rhuddanaidd (a enwyd ar ôl Fferm Cefn-Rhuddan)[5]
- Epoc Wenlock
- Epoc Llwydlo
- Epoc Přídolí
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Image:Sauerstoffgehalt-1000mj.svg
- ↑ Image:Phanerozoic Carbon Dioxide.png
- ↑ Image:All palaeotemps.png
- ↑ Haq, B. U.; Schutter, SR (2008). "A Chronology of Paleozoic Sea-Level Changes". Science 322 (5898): 64–68. Bibcode 2008Sci...322...64H. doi:10.1126/science.1161648. PMID 18832639.
- ↑ britannica.com ar-lein; adalwyd 2 Tachwedd 2015
Cyfnod blaen | Cyfnod hon | Cyfnod nesaf |
Ordofigaidd | Silwraidd | Defonaidd |
Cyfnodau Daearegol |