Siofinyddiaeth
Teyrnarwch gormodol neu ragfarnllyd i achos yw siofinyddiaeth.[1] Defnyddir yn bennaf i ddisgrifio gwladgarwch eithafol jingoaidd, neu oruchafiaeth wrywol ar draul merched.
Deillia'r gair o Nicolas Chauvin, milwr Ffrengig a oedd yn gefnogwr selog i Napoleon. Yn debyg i nifer o gyn-filwyr Napoleon, canodd Chauvin glodydd y fyddin Ffrengig a'r Ymerodraeth Napoleonaidd, hyd at iddo fod yn destun sbort.[2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ siofinyddiaeth. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 25 Ebrill 2018.
- ↑ (Saesneg) Chauvinism. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 25 Ebrill 2018.