Stadiwm chwaraeon yn Nulyn yw Stadiwm Aviva (Gwyddeleg: Staid Aviva). Dyma gartref timau rygbi a phêl droed cenedlaethol Iwerddon. Fe'i lleolir ar safle hen gae chwarae Lansdowne Road; dymchwelwyd yr hen stadiwm yn 2007 ac agorwyd yr un newydd yn swyddogol ar 14 Mai 2010. Mae'n dal 51,700 o bobl. Yn 2011 cynhaliwyd gemau'r Cwpan Celtaidd cyntaf a rownd derfynol Cynghrair Europa UEFA yno. Noddir y stadiwm gan y cwmni yswiriant Aviva; mae ganddynt hawliau enwi dros y stadiwm am y cyfnod o 2009 hyd 2019.

Stadiwm Aviva
Mathstadiwm bêl-droed, stadiwm rygbi'r undeb Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlAviva Group Ireland Edit this on Wikidata
Agoriad swyddogol14 Mai 2010 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 18 Mai 2007 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirDulyn Edit this on Wikidata
GwladBaner Gweriniaeth Iwerddon Gweriniaeth Iwerddon
Cyfesurynnau53.33496°N 6.22825°W Edit this on Wikidata
Map
PerchnogaethUndeb Rygbi Iwerddon Edit this on Wikidata
Cost410,000,000 Ewro Edit this on Wikidata
  NODES