Svetlana Yevgenyevna Savitskaya

Awdures a gofodwr o'r Undeb Sofietaidd yw Svetlana Yevgenyevna Savitskaya (Rwseg: Светла́на Евге́ньевна Сави́цкая; ganed 8 Awst 1948), sydd bellach wedi ymddeol. Hedfanodd ar fwrdd y Soyuz T-7 ym 1982, a hi oedd yr ail fenyw yn y gofod. Ar ei thaith i'r gofod yn 1984, hi oedd y fenyw gyntaf i hedfan am yr eildro, a'r fenyw gyntaf i derdded y tu allan i' llong ofod. Fel peilot, torrodd sawl record y Fédération Aéronautique Internationale (FAI). Mae Savitskaya yn briod, gydag un plentyn, mab a anwyd ym 1986.

Svetlana Yevgenyevna Savitskaya
LlaisSvetlana Savitskaya voice.oga Edit this on Wikidata
Ganwyd8 Awst 1948 Edit this on Wikidata
Moscfa Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Rwsia Rwsia
AddysgYmgeisydd Gwyddorau Technegol Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Sefydliad Hedfan Moscow
  • Prifysgol Dechnegol Awyrennu Kaluga Edit this on Wikidata
Galwedigaethhedfanwr, gofodwr, gwleidydd, person milwrol, llenor, fforiwr, peilot prawf, academydd, Aelod o 'Duma' Gwladwriaeth Rwsia Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 'Duma' Gwladwriaeth Rwsia Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Sefydliad Hedfan Moscow
  • State Duma
  • Supreme Soviet of the Soviet Union Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolParti Gomiwnyddol Ffederasiwn Rwsia, Plaid Gomiwnyddol yr Undeb Sofietaidd Edit this on Wikidata
TadYevgeny Savitsky Edit this on Wikidata
Gwobr/auUrdd Lenin, Arwr yr Undeb Sofietaidd, Urdd Teilyngdod "Am waith dros yr Henwlad", Dosbarth IV, Urdd y Bathodyn Anrhydedd, Pilot-Cosmonaut" Yr Undeb Sofietaidd, Medal "For Merit in Space Exploration, Urdd Lenin, Arwr yr Undeb Sofietaidd, Meistr Anrhydeddus Chwaraeon, CCCP, Master of skydiving USSR, Urdd Teilyngdod "Am waith dros yr Henwlad", Dosbarth III, Cymhwyster dosbarth milwrol y peilot, International Space Hall of Fame Edit this on Wikidata
llofnod

Bu'n aelod o Blaid Gomiwnyddol Ffederasiwn Rwsia a Phlaid Gomiwnyddol yr Undeb Sofietaidd. Bu hefyd yn aelod o'r Academi Awyr a Gofod am rai blynyddoedd.

Magwraeth a hyfforddiant

golygu

Ganwyd Svetlana Savitskaya yn Moscfa ar 8 Awst 1948 i deulu breintiedig, gyda'i thad, Yevgeny Savitsky, yn beilot rhyfel, wedi'i addurno'n fawr yn ystod yr Ail Ryfel Byd, a ddaeth yn ddiweddarach yn Ddirprwy Bencadlywydd (Deputy Commander-in-Chief) yr Awyrlu Sofietaidd.

Heb i'w rhieni wybod, dechreuodd Savitskaya barasiwtio yn 16 oed. Pan ddeallodd ei thad, fe anogodd hi i fynd gam ymhellach. Ar ei phen-blwydd yn un ar bymtheg oed roedd ganddi 450 naid parasiwt dan ei belt. Dros y flwyddyn dilynol, torrodd ambell record o ran uchter y neidiau hyn: 13,800 m a 14,250 m.[1][2][3]

Ar ôl graddio yn 1966, cofrestrodd yn Sefydliad Hedfan y Wladwriaeth, Moscow (MAI), lle cymerodd wersi hedfan hefyd. Yn 1971 cafodd ei thrwyddedu fel hyfforddwr hedfan. Ar ôl graddio o'r MAI yn 1972, hyfforddodd fel peilot peilot yn Ysgol Beilot-Prawf Fedotov, gan raddio yn 1976. Ym mis Mai 1978 fe'i cyflogwyd i weithio i'r gwneuthurwr awyrennau Yakovlev, fel peilot-prawf.[1][4] [5]

Rhwng 1969 a 1977 roedd yn aelod o dîm cenedlaethol Sofietaidd ar gyfer aerobatics. Ym Mhencampwriaethau Aerobatig FAI y Byd yng Ngorffennaf 1970 yn Hullavington, hedfanodd Yak-18 ac enillodd bencampwriaeth y byd ynghyd â thîm benywaidd. Ym Mhencampwriaethau'r Byd 1972 yn Salon-de-Provence cyrhaeddodd y trydydd safle.

I'r gofod

golygu

Ym 1979, cymerodd Savitskaya ran yn y broses o ddethol gofodwyr benywaidd ar gyfer yr ail grŵp o gosmoniaid benywaidd. Ar 30 Mehefin 1980, cafodd ei derbyn yn swyddogol i'r grŵp. Llwyddodd yn ei harholiadau ar 24 Chwefror 1982.

Soyuz T-7 / T-5

golygu

Yn Rhagfyr 1981, paratôdd Savitskaya ar gyfer ei hediad gofod cyntaf: taith fer i'r orsaf ofod Salyut 7, gan gymryd drosod gwaith y criw gwreiddiol. Leonid Popov oedd pennaeth y daith hon; hwn hefyd oedd hedfaniad cyntaf y peiriannydd Alexander Serebrov.

Lansiwyd y Soyuz T-7 ar 19 Awst 1982. Golygai hyn mai Savitskaya oedd yr ail ferch yn y gofod, 19 mlynedd ar ôl Valentina Tereshkova.

Dociodd y tri gofodwr gyda'r orsaf ofod y diwrnod canlynol, lle cawsant eu croesawu gan Anatoly Berezovoy a Valentin Lebedev. Dyma'r tro cyntaf i orsaf ofod gael criw cymysg eu rhyw. Ar 27 Awst 1982, dychwelodd Popov, Savitskaya, a Serebrov i'r Ddaear yn Soyuz T-5.

Soyuz T-12

golygu

Yn Rhagfyr 1983 fe'i henwyd ar gyfer ei hail hedfaniad, gan gynnwys EVA (Extravehicular activity, sef cerdded y tu fas i'r llong ofod), dair wythnos ar ôl i hedfaniad Kathy Sullivan (UDA), gael ei gyhoeddi. Y tro hwn gwaith y criw oedd mynd ag offer i'r orsaf-ofod fel y gallai'r trydydd criw preswyl, Salyut 7 E-3, atgyweirio llinell danwydd doredig.

Ar 17 Gorffennaf, 1984, lansiwyd Savitskaya ar fwrdd Soyuz T-12, ynghyd â'r Commander Vladimir Dzhanibekov ac ymchwilydd ymchwil Igor Volk. Ar 25 Gorffennaf 1984, daeth Savitskaya y fenyw gyntaf erioed i gerdded yn y gofod, gan gynnal EVA y tu allan i orsaf ofod Salyut 7 am 3 awr a 35 munud. Hyd yma (2019) hi yw'r unig fenyw Sofietaidd i gwneud hyn.

Anrhydeddau

golygu
  • Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Urdd Lenin (1982), Arwr yr Undeb Sofietaidd (1982), Urdd Teilyngdod "Am waith dros yr Henwlad", Dosbarth IV (2014), Urdd y Bathodyn Anrhydedd (1976), Pilot-Cosmonaut" Yr Undeb Sofietaidd (1982), Medal "For Merit in Space Exploration (2011), Urdd Lenin (1984), Arwr yr Undeb Sofietaidd (1984), Meistr Anrhydeddus Chwaraeon, CCCP (1970), Master of skydiving USSR, Urdd Teilyngdod "Am waith dros yr Henwlad", Dosbarth III, Cymhwyster dosbarth milwrol y peilot, International Space Hall of Fame (1985)[6][7] .


Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 Evans, Ben (2012). Tragedy and Triumph in Orbit: The Eighties and Early Nineties. Springer Science & Business Media. t. 614. doi:10.1007/978-1-4614-3430-6. ISBN 9781461434306.
  2. Dyddiad geni: А. М. Прохорова, ed. (1969) (yn ru), Большая советская энциклопедия (3rd ed.), Moscfa: The Great Russian Encyclopedia, OCLC 14476314, Wikidata Q17378135
  3. Man geni: А. М. Прохорова, ed. (1969) (yn ru), Большая советская энциклопедия (3rd ed.), Moscfa: The Great Russian Encyclopedia, OCLC 14476314, Wikidata Q17378135
  4. Знаменская, Наталья, gol. (2002). ШЛИ со временем [ShLI in Time] (yn Rwseg) (arg. 2). Жуковский: ООО "Редакция газеты "Жуковские вести". t. 400.
  5. Anrhydeddau: https://www.nmspacemuseum.org/inductee/svetlana-y-savitskaya/. dyddiad cyrchiad: 17 Gorffennaf 2023. "Anaya Appoints Three to Space Hall Panel". 4 Hydref 1985. t. 20.
  6. https://www.nmspacemuseum.org/inductee/svetlana-y-savitskaya/. dyddiad cyrchiad: 17 Gorffennaf 2023.
  7. "Anaya Appoints Three to Space Hall Panel". 4 Hydref 1985. t. 20.
  NODES
Intern 3
os 26