Dinas yng ngogledd-orllewin Gwlad Pwyl a phrifddinas talaith Gorllewin Pomerania yw Szczecin (Almaeneg: Stettin). Roedd y boblogaeth yn 2014 yn 408,113. Saif ar afon Oder, gyda chanol y ddinas ar y lan orllewinol. Er fod y môr 65 km i'r gogledd, mae llongau yn medru cyrraedd y ddinas, ac mae'n un o borthladdoedd pwysicaf Gwlad Pwyl. Mae hefyd yn ddinas brifysgol.

Szczecin
Mathdinas gyda grymoedd powiat, dinas, dinas Hanseatig, tref ar y ffin, dinas fawr, cyrchfan i dwristiaid Edit this on Wikidata
De-Stettin.oga Edit this on Wikidata
Cysylltir gydaFfordd Ewropeaidd E65 Edit this on Wikidata
Poblogaeth396,168 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethAlexander von Rammin, Piotr Krzystek Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+01:00, UTC+2 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Bari, Bremerhaven, Dalian, Klaipėda, Greifswald, Friedrichshain-Kreuzberg, Esbjerg, Kingston upon Hull, Lübeck, Malmö, Rostock, St. Louis, Pozzuoli, Dnipro Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirWest Pomeranian Voivodeship Edit this on Wikidata
GwladBaner Gwlad Pwyl Gwlad Pwyl
Arwynebedd301 ±1 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr131 ±1 metr Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaGmina Gryfino, Gmina Stare Czarnowo, Gmina Kobylanka, Gmina Goleniów, Gmina Police, Gmina Dobra, Gmina Kołbaskowo Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.4247°N 14.5553°E Edit this on Wikidata
Cod post70-001–71-899 Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethAlexander von Rammin, Piotr Krzystek Edit this on Wikidata
Map

Szczecin oedd prifddinas tiriogaeth hanesyddol Pomerania. Yn y 5g, roedd caer yma ar gyfer masnach rhwng y Llychlynwyr a chanolbarth Ewrop. Yn 1181 daeth y ddinas yn rhan o'r Ymerodraeth Lân Rufeinig, ac yn ddiweddarach yn aelod o'r Cynghrair Hanseataidd.

Daeth y ddinas yn eiddo brenin Sweden yn 1648 wedi'r Rhyfel Deng Mlynedd ar Hugain. Yn 1721, gorfodwyd y Swediaid i ildio'r ddinas i deyrnas Prwsia, ac yn 1870, gyda gweddill Prwsia, daeth yn rhan o Ymerodraeth yr Almaen. Yn 1945, wedi diwedd yr Ail Ryfel Byd, rhoddwyd meddiant ar y ddinas i Wlad Pwyl.

Szczecin

Pobl enwog o Stettin/Szczecin

golygu
  NODES