Mae tarddiad gwerin yn cyfeirio at ddadansoddiad o darddiad gair sy ddim yn gyson â'i darddiad hanesyddol. Yn aml mae tarddiadau gwerin yn ymddangos oherwydd bod siaradwyr yn gweld neu yn dychmygu tebygrwydd rhwng geiriau sy'n awgrymu perthynas rhyngddynt, er nad oedd perthynas o'r fath yn hanesyddol. Mae rhai tarddiadau gwerin yn dod yn lled gyffredin. Gall tarddiad gwerin arwain at newid i ffurf y gair i adlewyrchu'r dadansoddiad newydd ohono neu ffurfiau newydd eraill wedi'u seilio ar y dadansoddiad. Er enghraifft:

  • Mae'r gair (tafodieithol) Cymraeg cadben neu cadpen yn adlewyrchu ffrwyth tarddiad gwerin. Benthyciad ydyw o'r Saesneg captain fel capten, wedi'i ddeall fel gair cyfansawdd o cad 'brywdr' a pen 'arweinydd' ac yn newid ei ffurf i adlewyrchu hyn.[1]
  • Cafodd y gair mwnci ei ddeall fel gair cyfansawdd o mwng a ci mewn rhai tafodieithoedd, er enghraifft Bangor,[2] ac felly crëwyd y ffurfiau lluosog mwncwn neu myncwn yn y tafodieithoed hyn.[3]

Mae'r newidiadau hyn yn fath ar gydweddiad. Gwelir tarddiad gwerin weithiau fel camgydweddiad.

Tarddiad gwerin mewn ieithoedd eraill

golygu

Ceir tarddiad gwerin yn lled aml mewn llawer o ieithoedd. Ymysg enghreifftiau eraill y mae:

  • Mae siaradwyr Saesneg wedi dadansoddi'r gair hamburger, a fenthyciwyd yn wreiddiol o'r Almaeneg lle daw o enw'r ddinas Hamburg, fel gair cyfansawdd o ham ac elfen anhysbys burger. O ganlyniad rhoddwyd yr ystyr 'cacen gig' i burger gan greu geiriau newydd megis cheeseburger neu fishburger.[4]
  • Camsillafir y gair Saesneg harebrained yn aml fel hairbrained. Mae'r sillafiad newydd yn adlewyrchu tarddiad gwerin sy'n awgrymu'r ystyr 'ag ymennydd o wallt' yn lle'r tarddiad hanesyddol 'ag ymennydd fel ymennydd ysgwarnog'.[5]

Ffynonellau

golygu
  • Campbell, Lyle. 1998. Historical linguistics: An introduction. Caeredin: Edinburgh University Press, 100–102 ('Folk etymology').
  • Fynes-Clinton, O. H. 1913. The Welsh vocabulary of the Bangor district. Rhydychen: Oxford University Press.

Cyfeiriadau

golygu
  1.  capten. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 21 Ionawr 2021.
  2. Fynes-Clinton 1913: 382
  3.  mwnci. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 21 Ionawr 2021.
  4. Campbell 1998: 100–101
  5. Campbell 1998: 101
  NODES