Grŵp ethnig Tyrcig yn Nwyrain Ewrop yw Tatariaid Lipka sydd yn byw yn bennaf ym Melarws, Lithwania, a Gwlad Pwyl. Maent yn disgyn o lu bach o'r Nogai a gynorthwyodd Vytautas, Uchel Ddug Lithwania, yn ei frwydr yn erbyn y Marchogion Tiwtonaidd. Yn sgil eu buddugoliaeth ym Mrwydr Grunwald (1410), fe'u gwahoddwyd i ymsefydlu yn Uchel Ddugiaeth Lithwania.[1] Byddai'r dynion yn priodi â merched lleol, a dros amser defnyddiwyd yr ieithoedd Lithwaneg, Pwyleg, a Belarwseg ganddynt, ond maent o hyd yn Fwslimiaid.

Baner Tatariaid Lipka, yn seiliedig ar faner y Llu Euraid.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Felipe Fernández-Armesto (gol.), The Peoples of Europe ail argraffiad (Llundain: Times Books, 1997), tt. 364–5.
  NODES