Teth lwgu
Mae teth gysur[1], neu teth lwgu[2] neu, ar lafar, dymi neu swc-swc yn cynnwys rhan sugno o rwber neu silicon, tarian blastig i atal y babi rhag llyncu'r deth, ac weithiau cylch i dynnu'r deth yn hawdd.
Math | dwmi, nwyddau a weithgynhyrchwyd, infant product |
---|---|
Deunydd | rwber, plastig, silicon |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae yna wahanol fathau o dethi cysur: y siâp ceirios, y bwriedir iddo efelychu siâp y fron mor agos â phosibl, a'r un deintyddol, sy'n well ar gyfer y dannedd sydd i ddod. Ceir hefyd teth lwgu cryf ychwanegol ar gyfer babanod sydd eisoes â dannedd.
Hanes
golyguSoniwyd am deth lwgu am y tro cyntaf mewn llenyddiaeth feddygol ym 1473, yn cael eu disgrifio gan y meddyg Almaenig Bartholomäus Metlinger yn ei lyfr Kinderbüchlein, mewn rhifynnau diweddarach o'r enw Regiment der jungen Kinder ("Gofalu am Blant Ifanc").
Roedd y swc-swc yn ddatblygiad o fodrwyau dannedd caled, ond roeddent hefyd yn cymryd lle 'teth siwgr' meddalach, tethau siwgr neu garpiau siwgr ("suger rags")[3] a oedd wedi cael eu defnyddio yn America'r 19g. Disgrifiodd awdur ym 1873 "deth siwgr" wedi'i wneud o "ddarn bach o hen liain" gyda "llwyaid o siwgr braidd yn dywodlyd yn ei ganol", "casglwyd ... mewn i belen fechan" gydag edau clymu'n dynn o'i gwmpas.[4] Roedd carpiau gyda bwydydd wedi'u clymu y tu mewn hefyd yn cael eu rhoi i fabanod mewn sawl rhan o Ogledd Ewrop ac mewn mannau eraill. Mewn rhai mannau câi lwmp o gig neu fraster ei glymu mewn brethyn, ac weithiau byddai'r carpiog yn cael ei wlychu â brandi. Gallai ardaloedd Almaeneg eu hiaith ddefnyddio Lutschbeutel, brethyn wedi'i lapio o amgylch bara melys neu hadau pabi. Mae Madonna a phlentyn a baentiwyd gan Dürer ym 1506[5] yn dangos un o'r "teth gysur" brethyn clwm hyn yn llaw'r babi.
Daeth y swc-swc i'w ffurf fodern tua 1900 pan gafodd y cynllun deth, tarian a handlen gyntaf ei batentu yn yr Unol Daleithiau fel cysurwr babanod ("baby pacifier") gan fferyllydd ym Manhattan, Christian W. Meinecke.[6] Roedd rwber wedi'i ddefnyddio mewn peiriannau dannedd hyblyg a werthwyd fel "modrwyau gwm elastig" ar gyfer babanod Prydain yng nghanol y 19g,[7] ac fe'i defnyddiwyd hefyd ar gyfer tethi poteli bwydo. Ym 1902, hysbysebodd Sears, Roebuck & Co. "fodrwy torri dannedd rwber arddull newydd, gydag un deth galed ac un deth feddal".[7] Ac ym 1909 ysgrifennodd rhywun yn galw ei hun yn "Auntie Pacifier" at y New York Times i rybuddio am y "bygythiad i iechyd" (roedd hi'n golygu iechyd deintyddol) "y parhaus, ac, ymhlith dosbarthiadau tlotach, y sugno cyffredinol o deth rwber a werthwyd fel ‘pacifier’.”[8] Yn Lloegr hefyd, roedd dymis yn cael eu gweld fel rhywbeth y byddai’r dosbarthiadau tlotach yn ei ddefnyddio, ac yn gysylltiedig â hylendid gwael. Ym 1914 cwynodd meddyg o Lundain am "y deth ffug": "Os yw'n disgyn ar y llawr mae'n cael ei rwbio am ennyd ar flows neu ffedog y fam, ei lifo gan y fam a'i disodli yng ngheg y babi."[9]
Roedd tethi cysur cynnar yn cael eu cynhyrchu gyda dewis o rwber du, marŵn neu wyn, er bod rwber gwyn y dydd yn cynnwys rhywfaint o blwm.
Defnydd
golyguSugno yw gweithgaredd cyntaf babi newydd-anedig. Mae llawer o blant eisoes yn rhoi eu bawd yn eu ceg tra eu bod yn dal yn y stumog. Mae'n dod â diogelwch, affeithiolrwydd iddynt ac mae hyd yn oed yn eu cadw'n fyw.
Mae babanod hefyd yn gwybod yn syth sut i roi teth eu mam yn eu ceg yn gywir ac mae'r deth gysur wedi dod yn fodd i fonitro'r gweithgaredd hwnnw. Mae wedi ei brofi bod teth gysur yn cynorthwyo datblygiad plentyn yn sylfaenol yn ystod chwe mis cyntaf bywyd.
Mae plentyn yn defnyddio deg i bymtheg o dethi cysur ar gyfartaledd yn ystod ei flwyddyn gyntaf o fywyd, ac mae'r rhan fwyaf ohonynt yn mynd ar goll.
Deunydd a dyluniad
golyguMae teth gysur da yn ganlyniad astudiaethau gwyddonol trylwyr ac felly mae siâp y deth lwgu wedi'i addasu sawl gwaith dros y blynyddoedd. Y siâp mwyaf enwog yw'r siâp ceirios, yn seiliedig ar siâp bron y fam. Mae yna hefyd teth lwgu sy'n dilyn siâp ceg y plentyn.
Mae'r deunydd y gwneir y teth gysur ohono hefyd wedi cael rhai newidiadau. Mae tethi cysur ar gael gyda ffroenell latecs neu silicon. Mae gan y ddau sylwedd eu manteision a'u hanfanteision. Yn dal i fod, mae gweithgynhyrchwyr yn argymell latecs, oherwydd ei fod yn llawer agosach at deimlad y fam ac yn cymryd drosodd tymheredd y geg ar unwaith.
Hyd
golyguMae dadl ynghylch pa mor hir y mae plant wir angen eu teth lwgu, ond yn ôl y cynhyrchwyr mae'n gwneud synnwyr bod plant hyd at ddwy flwydd oed yn dal i ddefnyddio un. O hynny ymlaen, mae plant yn mynd i'r ysgol ac yn dysgu pob math o sgiliau cymdeithasol, sy'n eu gwneud yn llai ac yn llai dibynnol ar eu deth gysur.
Mae'r gwneuthurwyr hefyd yn cynghori'n gryf yn erbyn cael gwared ar y dymi yn rhy gynnar, oherwydd wedyn byddant yn sugno eu bodiau a bydd hynny'n achosi mwy o niwed i'r daflod a thwf dannedd na theth gysur.
Buddion
golygu- Mewn sefyllfaoedd o argyfwng, gall teth lwgu ddod â heddwch i'r babi a'i rieni.
- Gall y deth gysur fod yn effeithiol ar gyfer crampiau neu boenau eraill os nad yw siglo neu magu yn helpu.
- Mae'n haws i rieni reoli'r defnydd o'r swc-swc ar eu babi nag i'w hatal rhag sugno eu bodiau. Fodd bynnag, ar ôl iddo ymgymryd â'r arferiad hwnnw, ni ddylai fod yn sydyn heb ei ddysgu.
- Yn ôl astudiaethau, gallai'r deth gysur leihau'r risg o farwolaeth y crud (SIDS sudden infant death syndrome).[10]
Anfanteision
golygu- I rai, mae'r deth gysur yn afiach ac yn fudr.
- I eraill, mae sugno bawd neu bys yn rhwystro datblygiad dannedd.
- Er mwyn annog pobl i beidio â defnyddio'r dymi, mae rhieni weithiau'n defnyddio rheswm pendant dros beidio â defnyddio'r deth lwgu.[10]
Awgrymiadau ar sut a phryd i atal eich babi rhag defnyddio Swc-swc
golyguOs yw'r rhiant yn credu bod defnyddio swc-swc yn effeithio ar fwydo ar y fron (llai o borthiant dyddiol, effaith magu pwysau, neu anawsterau wrth gysylltu â'r fron) neu os ydych chi am ddiddyfnu babi iau o ddymi, gallech chi roi cynnig ar y canlynol:
- Os yw'r dymi yn cael ei ddefnyddio fel ciw cysgu, yna gall cyflwyno ciw cysgu gwahanol helpu.
- Gellir rhoi sylw ychwanegol i'r babi trwy gofleidio neu nyrsio yn lle hynny.
- Rhoi gynnig ar wahanol ffyrdd o dawelu eich babi, fel ei gario yn eich breichiau neu sling, neu gynyddu cyswllt croen-i-groen ag ef. Mae hyn yn eu helpu i deimlo'n well.
- Fe allech chi gyfyngu defnydd dymi eich babi i amseroedd penodol yn unig, fel yn y car.
- Gallai gwobrau weithio’n well i blentyn hŷn – gall eich canolfan blant leol neu’ch ymwelydd iechyd gynnig cymorth gyda hyn. Mae gan rai ardaloedd hyd yn oed ‘dylwyth teg ffug’ adeg y Nadolig.
- Ddewis amser da i roi’r gorau i ddefnyddio dymi – pan fydd eich plentyn yn teimlo’n dda, mae pethau’n sefydlog ac mae’n hapus.
- Rhoi cynnig ar guddio’r dymi i ffwrdd fel nad yw’ch plentyn yn ei weld.
Traddodiad Coeden Swc-swc Denmarc
golyguYn Nenmarc mae wedi bod yn draddodiad ers tro y gall y plentyn hongian ei swc-swc ar y Suttetræ[11] ("Coeden Swc-swc") gan ymweld â hi eto unrhyw bryd, fel ei fod yn cysylltu'r ffarwel â phrofiad cadarnhaol. Mae'r arferiad Denmarc hwn yn cael ei fabwysiadu'n raddol mewn gwledydd fel Yr Almaen lle'i gelir yn Schnullerbaum gan nifer o drefi a chymunedau, sydd â choed tethi cysur cyhoeddus yn eu parciau ac sy'n trefnu gwyliau tethi cysur fel y'u gelwir gyda rhaglenni plant ar ddyddiadau penodol.
Tylwyth Teg y Swc-swc
golyguCeir arferiad arall ar gyfer denu babis oddi ar defnyddio eu teth lwgu. Un arall yw'r tylwyth teg swc-swc wedi sefydlu ei hun yn yr Almaen, sydd fel cymeriad dychmygol neu berson chwarae yn cyfnewid teth lwgu y plentyn am anrheg. Fel y dylwythen deg dant, mae tylwyth teg y swc-swc yn dod o wledydd Eingl-Americanaidd.[12]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Dummy". Geiriadur yr Academi. Cyrchwyd 10 Mehefin 2022.
- ↑ "Teth lwgu". Geiriadur Prifysgol Cymru. Cyrchwyd 16 Mehefin 2022.
- ↑ Oxford English Dictionary
- ↑ Jamieson, Cecilia Viets (1873) Ropes of Sand Archifwyd 2012-02-23 yn y Peiriant Wayback. Chapter 2: Top's baby. Letrs.indiana.edu. Retrieved on 2013-04-14.
- ↑ Madonna and Siskin. Wga.hu. Retrieved on 2013-04-14.
- ↑ Design Patent number D33,212 C.W.Meinecke Sep 18 1900
- ↑ 7.0 7.1 The history of the feeding bottle. babybottle-museum.co.uk
- ↑ Auntie Pacifier (July 2, 1909) The "Pacifier" a Menace to Health. New York Times.
- ↑ ''British Journal of Nursing: The Midwife'' Aug 7 1915. (PDF) . Retrieved on 2013-04-14.
- ↑ 10.0 10.1 "Dummies, pros and cons: your dummy questions answered". New Parent Support. Mehefin 2018.
- ↑ "En fortælling om suttetræer". Concord Evends (Denmarc). 14 Mawrth 2018.
- ↑ Der Standard, Nuckeln bis die Schnullerfee kommt