The Wind in the Willows
Clasur o lenyddiaeth plant ydy The Wind in the Willows, a'i ysgrifennwyd yn 1908 gan Kenneth Grahame.
Delwedd:Wind in the Willows - Front cover.jpg, The Wind in the Willows cover.jpg | |
Math o gyfrwng | gwaith llenyddol |
---|---|
Label brodorol | The Wind in The Willows |
Awdur | Kenneth Grahame |
Cyhoeddwr | Charles Scribner's Sons |
Gwlad | y Deyrnas Unedig |
Iaith | Saesneg |
Dyddiad cyhoeddi | 1908 |
Genre | nofel i blant |
Cymeriadau | Mr. Toad |
Statws hawlfraint | parth cyhoeddus |
Enw brodorol | The Wind in The Willows |
Lleoliad y gwaith | Berkshire, Lloegr |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae'r stori yn symyd yn araf ac yn sydyn bob yn ail, ac yn canolbwyntio ar bedwar cymeriad anifeiliaidd wedi eu anthromorffeiddio mewn darlun bugeiliol o Loegr. Mae'r nofel yn nodweddiadol am ei chymysgedd o gyfriniaeth, antur, moesoldeb a'r camaraderie.
Fe wnaeth y llyfr Grahame yn gyfoethog, gan ei alluogi i ymddeol o'i swydd banc a oedd yn ei gasau (er ei fod yn swydd parchus a oedd yn talu'n dda) a symyd i gefn gwlad. Treuliodd Grahame ei amser ger Afon Tafwys, yn debyg i'w gymeriadau anifeiliaidd; yn chwarae ogwmpas ar gychod fel dywedir yn ei lyfr: simply messing about in boats. Achubwyd y llyfr o ddinodedd gan ddramodwr enwog, A. A. Milne, a garodd y llyfr a'i addasodd ar gyfer y llwyfan mewn drama o'r enw Toad of Toad Hall.
Gellir golygu'r llyfr fel sylwebaeth ar ddynameg dosbarth yng nghymdeithas Prydain.