Titw mawr

rhywogaeth o adar
Titw Mawr
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Passeriformes
Teulu: Paridae
Genws: Parus
Rhywogaeth: P. major
Enw deuenwol
Parus major
Linnaeus, 1758
Parus major

Mae'r Titw Mawr Parus major yn aelod o deulu'r Paridae, y titwod. Mae'n aderyn cyffredin trwy'r rhan fwyaf o Ewrop ac Asia lle mae unrhyw fath o goed.

Mae'n aderyn cyfarwydd a hawdd ei adnabod. Yn Ewrop mae ganddo fron felen a llinell ddu yn rhedeg ar ei hyd, pen a gwddf du a bochau gwyn a chefn gwyrdd. Gellir adnabod adar ieuanc trwy fod lliw melyn arnynt lle mae'r oedolyn yn wyn, a'r lliwiau eraill yn fwy dwl. Mewn rhai rhannau o'r byd mae ei liwiau yn wahanol, er enghraifft yn India mae'r cefn yn llwyd ac mae'n wyn oddi tano.

Y titw mawr ym Mharc Singleton, Abertawe

Ei brif fwyd yw pryfed o wahanol fathau. Amserir y tymor nythu i gyd-fynd a'r nifer fwyaf o lindys, sy'n cael eu defnyddio i fwydo'r cywion. Mae'n nythu mewn tyllau mewn coed, ond hefyd yn barod iawn i ddefnyddio blychau nythu. Yn y gaeaf mae'n ymuno ag adar eraill i ffurfio heidiau, sy'n aml yn cynnwys y Titw Tomos Las a thitwod eraill. Mae'n aderyn cyffredin iawn mewn gerddi o bob math.

  NODES