Toledo
Mae Toledo (o'r Lladin Toletum) yn ddinas yng nghanolbarth Sbaen. Mae'n brifddinas y dalaith o'r un enw, a hefyd yn brifddinas cymuned ymreolaethol Castilla-La Mancha. Saif ar lan Afon Tajo. Roedd y boblogaeth yn 2006 yn 77,601; mae wedi cynyddu'n gyflym yn y blynyddoedd diwethaf gan fod Toledo yn awr o fewn ugain munud i Madrid ar y tren cyflym.
Math | bwrdeistref Sbaen |
---|---|
Prifddinas | Toledo city |
Poblogaeth | 86,526 |
Pennaeth llywodraeth | Milagros Tolón |
Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 |
Gefeilldref/i | Aachen, Agen, Corpus Christi, Damascus, Guanajuato, La Habana, Heraklion, Nara, Safed, Toledo, Veliko Tarnovo, Santiago del Estero, Moyobamba, Empoli, Teggiano, Veliko Tarnovo, Melilla |
Nawddsant | Ildephonsus of Toledo |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Red de Juderías de España |
Sir | Talaith Toledo |
Gwlad | Sbaen |
Arwynebedd | 232.1 km² |
Uwch y môr | 523 metr |
Gerllaw | Afon Tagus |
Yn ffinio gyda | Albarreal de Tajo, Bargas, Burguillos de Toledo, Cobisa, Guadamur, Mocejón, Nambroca, Olías del Rey, Polán, Almonacid de Toledo, Argés, Rielves, Aranjuez |
Cyfesurynnau | 39.87°N 4.03°W |
Cod post | 45001–45009 |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | mayor of Toledo, Spain |
Pennaeth y Llywodraeth | Milagros Tolón |
Sefydlwyd Toledo gan y Celtiberiaid. Yn 193 CC. cipiwyd y ddinas gan y Rhufeiniaid dan Marco Fulvio Nobilior, ac fel tref Rufeinig daeth yn ganolfan bwysig i'r diwydiant haearn. Cipiwyd y ddinas gan yr Alaniaid yn 411, yna gan y Fisigothiaid yn 418. Yn 711 cipiwyd hi gan fyddin Islamaidd Tarik, a daeth yn ddinas Islamaidd dan yr enw Tulaytulah (Arabeg طليطلة). Yn ddiweddarach daeth Toledo yn deyrnas Islamaidd annibynnol, ond ar 25 Mai 1085, ildiwyd y ddinas i Alfonso VI, brenin León a Castilla. Mae'r hen ddinas yn Safle Treftadaeth y Byd.
Pobl enwog cysylltiedig a Toledo
golygu- Jehuda Halevi (c. 1075–1141), bardd a gwyddonydd Iddewig.
- Garcilaso de la Vega (c.1501-1536), bardd