Tonic sol-ffa
Techneg addysgu ar gyfer canu ar yr olwg gyntaf yw tonic sol-ffa. Cafodd y tonic ei ddyfeisio gan Sarah Ann Glover (1785–1867) o Norwich yn Lloegr, a'i boblogeiddio gan John Curwen drwy ei addasu o nifer o systemau cerddorol blaenorol. Yng Nghymru, roedd yn cael ei ddefnyddio'n helaeth yn yr ysgolion Sul tan o leiaf ganol yr ugeinfed ganrif er mwyn dysgu plant i ganu ar yr olwg gyntaf. Mae cefnogwyr y dechneg yn dadlau bod sol-ffa yn ffordd haws o ddarllen cerddoriaeth i ganu, ac mae galwadau wedi bod i ailddechrau dysgu'r dechneg i blant.
Mae'r tonic sol-ffa yn defnyddio system o nodau cerddorol sy'n seiliedig ar Do symudol, lle mae pob tôn yn cael enw yn ôl ei berthynas â'r tonau eraill yn y cywair: mae nodau cerddorol hen nodiant yn cael eu cyfnewid am sillafau sol-ffa (e.e. do, re, mi, ffa, sol, la, ti, do) neu eu byrfoddau (d, r, m, f, s, l, t, d). Mae "do" yn cael ei ddewis fel tonic beth bynnag fo'r cywair; dyna pam y dywedir bod Do yn symudol.
Mae arwyddion llaw hefyd i'w cael sy'n cynrychioli'r nodau yn y tonic sol-ffa.
Sol-ffa yng Nghymru
golyguRoedd y dechneg yn boblogaidd mewn canu cynulleidfaol yng Nghymru am y rhan fwyaf o'r 20g. Mae hen nodiant yn fwy cyffredin erbyn hyn, ond mae capeli yn dal i gadw copïau o lyfrau emynau mewn sol-ffa yn ogystal â hen nodiant, gan fod rhai pobl yn ei chael yn haws darllen cerddoriaeth mewn sol-ffa. Roedd ysgolion Sul yn arfer dysgu plant i ddarllen cerddoriaeth fel hyn drwy ddefnyddio'r tonic sol-ffa. Mae rhai wedi galw am adfer yr arfer o ddysgu plant i ddarllen sol-ffa.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Rhoi ail wynt i 'do, re, mi'". BBC Cymru Fyw. 30 Mehefin 2019. Cyrchwyd 23 Mai 2021.